Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig newydd a grëwyd i symud y trawsnewidiad digidol sydd ei angen ar gyfer gwell iechyd a gofal yng Nghymru ymlaen, gan wneud gwasanaethau yn fwy hygyrch a chynaliadwy wrth gefnogi iechyd a llesiant personol.
Gan adeiladu ar fuddsoddiad digidol diweddar, mae gennym rôl flaenllaw wrth ddarparu’r rhaglenni cenedlaethol sydd eu hangen ar gyfer gofal iechyd modern a alluogir gan dechnoleg. Mae’r rhain yn ddatblygiadau ar raddfa fawr a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru.
Fel sefydliad newydd, mae gennym raglen integreiddio ac arloesi feiddgar ac uchelgeisiol sy’n cynnwys ehangu’r cofnod cleifion digidol a chreu adnodd data cenedlaethol sy’n arwain y byd, gan wella’r ffordd y caiff data eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Y prif gyfrifoldebau yw:
• Rhoi trawsnewidiad digidol ar waith a sicrhau gofal o ansawdd uchel
• Ehangu mynediad i’r Cofnod Iechyd a Gofal Digidol
• Darparu gwasanaethau digidol o ansawdd uchel
• Galluogi dadansoddi data mawr i gael gwell canlyniadau
Cyflawni nodau digidol Llywodraeth Cymru a sicrhau’r datrysiadau digidol gorau posibl ar gyfer pobl Cymru. Rydym yn gweithio ar y cyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, cleifion a’r cyhoedd, y diwydiant a’r byd academaidd.
Rydym yn cael ein harwain gan Fwrdd sy'n cynnwys cyfarwyddwyr gweithredol ac aelodau annibynnol a dyma yw ein prif gorff gwneud penderfyniadau.
Er bod nifer o’n staff yn gweithio gartref yn ystod pandemig COVID-19, mae gennym Brif Swyddfa yng Nghaerdydd a swyddfeydd llai yn Abertawe, Yr Wyddgrug, Pont-y-pŵl a Phencoed. Darganfod mwy am ein swyddfeydd.