Neidio i'r prif gynnwy

Dylunio Gwybodaeth a Datblygu Safonau

 

Yma byddwch yn gallu cael mynediad i ystod o wybodaeth am Safonau Gwybodaeth GIG Cymru a'u defnyddio wrth gasglu, adrodd a disgrifio gweithgarwch ysbytai GIG Cymru a sefydliadau gofal iechyd eraill.  

Mae'r swyddogaeth Dylunio Gwybodaeth a Datblygu Safonau yn rhan o Cyfarwyddiaeth Strategaeth Ddigidol Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC). Mae'r adran yn cynnwys pedwar tîm unigol sy'n cwmpasu ystod o swyddogaethau cysylltiedig:

Y tîm Safonau Data, sy'n cefnogi sicrwydd a datblygiad holl safonau data GIG Cymru ac yn cynnal Geiriadur Data GIG Cymru.

Mae'r tîm Dosbarthiadau Clinigol yn datblygu polisi a safonau dosbarthu clinigol ac arweiniad ar gyfer gwasanaethau codio clinigol yn GIG Cymru.  Mae'r tîm yn cynnal ac yn trefnu'r amserlen hyfforddi codio clinigol cenedlaethol ac yn darparu swyddogaeth ddesg gymorth codio clinigol genedlaethol ar ran GIG Cymru. Mae'r tîm hefyd yn cynnal Geiriadur Safonau Dosbarthiadau Clinigol GIG Cymru ac yn cyflwyno'r Rhaglen Archwilio Codio Clinigol Genedlaethol flynyddol.

Rhyngddynt, mae'r timau Safonau Data a Dosbarthiadau Clinigol yn darparu cyngor a sicrwydd i dimau cymwysiadau cenedlaethol i gefnogi cyflwyno data a gwybodaeth gyson, safonol ar gyfer systemau gweithredol, megis WCCIS, WLIMS, WEDS ac ati. Mae hyn yn cynnwys diffinio cynnwys CT SNOMED perthnasol ar gyfer y systemau hynny.

Mae'r tîm Ansawdd Data yn gyfrifol am weithredu safonau ansawdd data i gefnogi'r gwaith o fonitro perfformiad ansawdd data ar gyfer setiau data defnydd eilaidd ac mae’n mynd ati’n rhagweithiol i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ansawdd data, gyda'r bwriad o wella safon gyffredinol y data yn GIG Cymru.

Mae Gwasanaeth Cyfeirio a Therminoleg Cyfeirio Cymru, yn cynnal ac yn datblygu Gwasanaeth Data Cyfeirio Cymru a Gweinydd Terminoleg GIG Cymru, a ddefnyddir i sicrhau y defnyddir data cyfeirio a therminolegau cyson ar draws systemau ac adroddiadau TG GIG Cymru. Mae'r tîm yn cynnal y seilwaith sy'n darparu storfa ganolog ar gyfer systemau cod a setiau gwerth penodol cenedlaethol y DU a’r rhai sy’n benodol i Gymru.

 

Tîm Safonau Gwybodaeth

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Tŷ Glan-yr-Afon

21 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen

Caerdydd

CF11 9AD

 

Cysylltiadau:

Safonau.data@wales.nhs.uk

Clinical.Coding@wales.nhs.uk

Ansawdd.Data@wales.nhs.uk

SNOMED@wales.nhs.uk

NWIS.referencedatateam@wales.nhs.uk