Neidio i'r prif gynnwy

Safonau Ansawdd

 

Mae ansawdd yn nod strategol allweddol Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac mae wedi’i ymgorffori yn y sefydliad trwy weithio i gydnabod modelau a methodolegau arferion gorau ym maes diwydiant.

Y fframwaith ar gyfer y rhain yw’r System Rheoli Integredig (IMS) sy’n rhestru’r polisïau, cynlluniau a gweithdrefnau sy’n nodi pa waith sydd angen ei wneud, gan bwy a sut i’w wneud.  Y rhain yw’r safonau ansawdd i’r sefydliad.

Gyda’r rhain ar waith, gellir dilysu ansawdd ein gwasanaethau a’n harferion gweithredol yn allanol, er enghraifft trwy ardystiad safonau ISO, a gan archwilwyr allanol, er enghraifft Archwilio Cymru.

 

Ein hardystiadau