Neidio i'r prif gynnwy

Polisi preifatrwydd

 

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad cenedlaethol sy'n darparu technoleg a gwasanaethau digidol ar gyfer gofal cleifion modern yng Nghymru. Er mwyn ein galluogi i gyflawni ein swyddogaethau, mae angen i ni ddefnyddio data personol, a thrwy hynny rydym yn golygu gwybodaeth am unigolion byw.

Mae ein Polisi Preifatrwydd wedi'i fwriadu ar gyfer cleifion neu eraill y mae eu data personol yn cael eu cadw a / neu eu defnyddio gan IGDC. Mae'n egluro pam ein bod yn cadw gwybodaeth o'r fath, yr hyn rydym yn ei wneud â hi, eu hawliau a gyda phwy y gallant gysylltu os oes angen gwybodaeth bellach arnynt.

 

Adborth ac ymholiadau

Gallwch anfon eich adborth atom drwy ddefnyddio ein ffurflen adborth ar-lein. Os rhowch chi eich manylion cyswllt i ni fel y gallwn ymateb i’ch ymholiad, dim ond at y diben hwnnw y cânt eu defnyddio.

 

Gwybodaeth am y defnydd o’r wefan

Cwcis

Mae cwcis yn ddarnau o ddata a grëir pan fyddwch yn ymweld â gwefan. Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth tra’ch bod yn pori drwy’r wefan. Gallwch osod eich cyfrifiadur fel nad yw’n derbyn cwcis. Fodd bynnag, os byddwch yn gwneud hyn, ni fyddwch yn gallu defnyddio rhai nodweddion o’r wefan oherwydd mae angen i ni gofnodi eich dewisiadau er mwyn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn ystod eich ymweliad.

Nid yw ein cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch ac nid ydynt yn cadw unrhyw wybodaeth ynglŷn â pha wefannau yr ymweloch â hwy cyn i chi ymweld â’r wefan hon.

Sut i Ddiffodd Cwcis

I newid eich gosodiadau cwcis:

• Internet Explorer
• Ewch i ‘Tools’ yn y ddewislen > Dewiswch ‘Internet Options’ > Dewiswch ‘Privacy’ > ‘Disable / restrict cookies’
Firefox
• Ewch i ‘Tools’ yn y ddewislen > Dewiswch ‘Options’ > Dewiswch ‘Privacy’ > ‘Disable / restrict cookies’
Opera 

* Noder y gallai’r gosodiadau uchod amrywio yn dibynnu ar fersiwn y porwr.

Gwybodaeth Bersonol

Nid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol am ddefnyddwyr y wefan.

Pan fyddwch yn cyflwyno data adnabyddadwy o’ch gwirfodd ar y wefan hon (mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflenni adborth neu holiaduron), ni fydd yr wybodaeth a gyflwynwyd ond yn cael ei defnyddio i ymateb i’ch ymholiadau ac at y dibenion y cafodd yr wybodaeth ei chasglu.
 

 

Rhestrau Postio

Pa ddata rydym yn eu casglu?

Pan fyddwch yn tanysgrifio i’r rhestrau postio, byddwn yn cofnodi eich cyfeiriad e-bost. Byddwn hefyd yn casglu eich dewisiadau tanysgrifio, sy’n gyfyngedig ar hyn o bryd i fanylion am ba restrau rydych wedi tanysgrifio iddynt.

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn cofnodi unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy arall os byddwch yn dewis ei darparu. Ni fydd yr wybodaeth hon ond yn cael ei defnyddio at ddibenion dadansoddi mewnol er mwyn llywio penderfyniadau ar natur a chynnwys ein cyfathrebiadau. Constant Contact yw darparwr ein cylchlythyr a nhw sy’n dosbarthu ein rhestrau postio.

Mae hyn hefyd yn rhoi gwybodaeth i ni am y defnydd o’n rhestrau postio, gan gynnwys ystadegau yn ymwneud â faint o danysgrifwyr sy’n agor neu’n darllen pob cylchlythyr a nifer yr ymweliadau â dolenni sydd wedi’u cynnwys mewn cylchlythyr. Ni fydd y data hyn ond yn cael eu defnyddio i lywio penderfyniadau ar natur a chynnwys cyfathrebiadau’r dyfodol.

At ba ddiben rydym yn bwriadu defnyddio eich gwybodaeth bersonol?

Ni fyddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i anfon diweddariadau i chi o’r rhestrau postio rydych wedi ymuno â hwy. Ni fydd eich cyfeiriad yn cael ei ychwanegu i unrhyw restr arall, ei rannu â thrydydd partïon (ar wahân i ddarparwr gwasanaeth y rhestr bostio – Constant Contact) na’i ddefnyddio i anfon e-byst na ofynnwyd amdanynt.

 

Google Analytics

Mae’r wefan hon yn defnyddio Google Analytics, sef gwasanaeth dadansoddeg ar-lein a ddarperir gan Google Inc. (‘Google’). Mae Google Analytics yn defnyddio ‘cwcis’ a chod JavaScript i helpu i ddadansoddi gweithgarwch defnyddwyr ar wefannau. Caiff yr wybodaeth a gynhyrchir am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) ei throsglwyddo a’i storio ar weinyddwyr Google yn yr Unol Daleithiau.

Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynhyrchu adroddiadau am weithgarwch defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Mae’n bosibl y bydd Google hefyd yn trosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle y bo’n rhaid gwneud hynny yn unol â’r gyfraith, neu lle y bydd trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata eraill a gadwyd amdanoch ynghynt. Gallech wrthod defnyddio cwcis trwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Noder os bydd cwcis wedi’u diffodd, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio swyddogaeth lawn y wefan hon. Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cydsynio i Google brosesu data amdanoch yn y modd ac at y dibenion a amlinellir uchod.

Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Llawn a ThelerauBolisi Preifatrywdd Llawn ac TAmodau Gwasanaeth Google am wybodaeth fanwl.

This website uses Google Analytics, a web analytics service provided by Google Inc. ('Google'). Google Analytics uses 'cookies' and JavaScript code to help analyse user activity on websites. The information generated about your use of the website (including your IP address) will be transmitted to and stored on Google servers in the United States.

Pam Rydym yn Casglu Ystadegau Defnyddwyr

Trwy ddeall ymddygiadau a dewisiadau defnyddwyr, rydym yn gallu gwella cynnwys ein gwefan i ddiwallu anghenion a disgwyliadau defnyddwyr.

 

Dolenni i wefannau allanol

Fel y rhan fwyaf o wefannau, mae gwefan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cynnwys dolenni i wefannau allanol. Dylid nodi na fydd y polisi preifatrwydd hwn ond yn berthnasol i’r wefan hon ac nad ydym yn gyfrifol am arferion preifatrwydd gwefannau eraill.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol rydych wedi’i rhoi i ni i unrhyw wefan arall.

.