Mae cyfres gweminar Yr Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) yn parhau wrth i ni archwilio'r strategaeth a'r weledigaeth ar gyfer data gofal cymdeithasol yng Nghymru ac arddangos enghreifftiau lle mae data cydgysylltiedig eisoes yn cael ei ddefnyddio i wneud gwahaniaeth go iawn
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) yw'r 100fed sefydliad i arwyddo'r cynllun Addewid Step into Health bellach, sef rhaglen sy'n cefnogi aelodau o gymuned y lluoedd arfog i chwilio am gyfleoedd cyflogaeth yn y GIG.
Mae data brechlynnau a gesglir ar System Imiwneiddio Cymru (WIS) bellach ar gael i feddygon teulu trwy'r Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol (PCIT) ac fe'u diweddarir bedair gwaith y dydd.
Mae chwe labordy patholeg GIG Cymru wedi cael caledwedd TG newydd ac mae eu meddalwedd wedi’i huwchraddio, sy’n golygu gwelliannau i’r system, gwell gwytnwch a phroses rheoli data haws.
Penodwyd Ysgrifennydd Bwrdd sydd â phrofiad helaeth mewn llywodraethu gofal iechyd i'r Awdurdod Iechyd Arbennig newydd - Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Darllen ein datganiad ar uwchraddio i WLIMS
Mae Helen Thomas wedi cael ei henwi’n Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Honnir bod cytundeb sy’n torri tir newydd, a arwyddwyd heddiw rhwng dwy brifysgol fawr GIG Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, yn garreg filltir sy’n cysylltu technoleg iechyd ac academia.
Mae system ar gyfer creu a threfnu apwyntiadau brechu COVID-19 wedi cael ei datblygu gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS).
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) wedi galluogi meddygon teulu a staff practisiau meddygon teulu yng Nghymru i gael mynediad at ap sy'n cysylltu defnyddwyr â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol arbenigol pan fydd angen cyngor am ofal cleifion cymhleth arnynt.
Mae trawsnewidiad cenedlaethol dogfennaeth nyrsio wedi ennill Gwobr Nursing Times 2020. Cyflawnwyd y wobr yn y categori ‘Technoleg a Data ym maes Nyrsio’.
Mae Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru bellach ar gael ar draws Gofal Sylfaenol a fydd yn cynnwys gwasanaethau Deintyddol, Ymarfer Cyffredinol, Optometreg a Fferylliaeth.
Mae gwefan newydd wedi'i lansio i arddangos y rhaglen Gwerth mewn Iechyd genedlaethol yng Nghymru.
Yn barod ar gyfer agor Ysbyty Athrofaol y Faenor ym mis Tachwedd 2020, ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw'r cyntaf yng Nghymru i roi system fferylliaeth newydd ar waith fel rhan o gynllun mawr i foderneiddio fferylliaeth a phresgripsiynu.
|
Mae tua 300 o wefannau ledled GIG Cymru yn cael eu hadnewyddu, ac mae hyn wedi'i bweru gan System Rheoli Cynnwys (CMS) newydd, fodern.
Mae fferyllwyr, deintyddion ac optometryddion wedi bod yn treialu Gwasanaeth Ymgynghori Fideo’r GIG ar ôl ei lwyddiant ymhlith meddygon teulu. Mae adborth gan ddefnyddwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn gyda sylwadau megis ‘gostyngiad yn amser teithio cleifion, llai o lanhau a diheintio ystafelloedd’ a ‘gwell proses frysbennu i arbed apwyntiadau wyneb yn wyneb’.
Mae datblygwyr o NWIS wedi bod yn rhan o'r tîm sy’n sicrhau bod ap COVID-19 y GIG yn cysylltu â data a systemau sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru i helpu i atal lledaeniad Coronafeirws. Mae llwyddiant y gwaith integreiddio rhwng yr ap a’r systemau labordy yn golygu bod yr ap yn rhedeg yn esmwyth yng Nghymru.
Mae Nodyn Ymgynghori Diabetes Digidol wedi helpu i ddarparu gofal i gleifion diabetes trwy gydol pandemig Covid. Mae'r nodyn yn caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gofnodi a gweld darlleniadau ac arsylwadau, meddyginiaethau a gwybodaeth arall am gleifion. Mae PDF o'r nodyn yn cael ei greu ym Mhorth Clinigol Cymru, y gall clinigwyr sy'n defnyddio'r system ledled Cymru ei ddefnyddio.