Cyfle i wrando a dysgu ar y cyd yn Sioe HETT 2023
Mae profion byw ar fin dechrau ar Wasanaeth Rhagnodi Electronig (EPS) newydd a fydd yn golygu bod presgripsiynau'n cael eu hanfon yn electronig o bractis meddyg teulu i'r fferyllfa o ddewis claf, heb fod angen presgripsiwn papur.
Mae’r gwobrau GIG Cymru yn dathlu rhagoriaeth mewn iechyd a gofal ledled Cymru.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) wedi croesawu cyhoeddi Strategaeth Digidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar ei newydd wedd.
Mae Dewis fferyllfa – sef system cofnodion digidol GIG Cymru a ddefnyddir gan fferyllwyr – yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed yr haf hwn. Dechreuodd y system yn 2013 fel platfform i alluogi fferyllwyr cymunedol i gofnodi ymgynghoriadau, rhannu gwybodaeth, darparu triniaeth ar gyfer amrywiol anhwylderau cyffredin a chynhyrchu hawliadau am daliad.
Mae rhaglen waith enfawr wedi llwyddo i gysylltu fersiynau ar wahân o System Gweinyddu Cleifion Cymru (WelshPAS) yng Ngogledd Cymru. Mae’n dod â holl ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (PBC) ynghyd i greu un fersiwn unigol o'r WelshPAS.
Mae’r ffordd y caiff meddyginiaethau eu rhagnodi, eu dosbarthu a’u gweinyddu yng Nghymru yn newid – ac mae’r tîm sy’n arwain y gwaith cyffrous hwn wedi creu fideo animeiddiedig newydd i helpu cleifion, y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddeall y manteision a ddaw yn sgil hyn.
Cwblhaodd y Rhaglen Cenhadon Newid sydd dan arweiniad DHCW ei digwyddiad graddio cyntaf yr wythnos diwethaf ac mae dros 40 o fyfyrwyr wedi graddio’n llwyddiannus ac yn rhannu eu straeon am sut mae’r rhaglen wedi eu helpu i arwain newid.
Wrth i’r GIG nodi ei ben-blwydd yn 75 oed, mae Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn myfyrio ar y newidiadau dramatig yr ydym wedi’u gweld ym maes gofal iechyd ers sefydlu’r gwasanaeth iechyd.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol yn edrych ymlaen at arddangos eu gwaith mewn dwy gynhadledd a digwyddiad cenedlaethol sydd ar ddod i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed.
Bydd trawsnewid meddyginiaethau’n ddigidol dan y chwyddwydr yng Nghynhadledd Cydweithio’r GIG MediWales Connects, a gynhelir yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd ar 29 Mehefin.
Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn darparu ystod gynhwysfawr o e-Adnoddau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol megis crynodebau tystiolaeth, canllawiau ac e-ddysgu.
Mae cofnod electronig a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer cleifion diabetes yn mynd o nerth i nerth. Mae dros 6,000 o nodiadau ymgynghoriad Diabetes (DCN) yn cael eu creu bob mis ac mae mwy na 150,000 o DCNs wedi’u creu ers ei lansio yn 2019.
Ddydd Sadwrn 17 Mehefin bydd pobl o bob rhan o GIG Cymru yn gorymdeithio drwy Ganol Dinas Caerdydd i ddathlu mis Balchder.
Mae gwaith tîm Dewis Fferyllfa yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) wedi’i gydnabod yng Ngwobrau Antibiotic Guardian.
Y Mis Balchder hwn rydym yn rhannu straeon gan rai o'n staff am eu profiadau fel rhan o'r gymuned LHDTC+. Dewch i gwrdd â Nathan Stone, Rheolwr Prosiectau Technegol yn DHCW a dysgu rhagor am ei daith i fod allan ac yn falch.
Cyhoeddwyd bod tîm y Rhaglen Llysgenhadon Newid, ynghyd â Jamie Parry, arweinydd y tîm, a thîm Cofnod Gofal Nyrsio Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Arweinwyr Technoleg Ddigidol y cylchgrawn Computing.
Bydd Lesley Jones yn arwain y newid mwyaf i’r broses rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau mewn ysbytai yng Nghymru ers degawdau.
Cynhelir digwyddiad dysgu allweddol i gefnogi cyflwyniad arfaethedig Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd yn Electronig (ePMA) yn ysbytai GIG Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 25 Mai, 2023.