Neidio i'r prif gynnwy

Sut y bydd pobl sydd wedi'u heithrio'n ddigidol yn cael mynediad at wasanaethau iechyd?

Rydym yn ymwybodol nad yw pawb eisiau defnyddio neu’n gallu defnyddio technoleg yng Nghymru. Drwy gefnogi cleifion sy'n gallu ac sydd eisiau defnyddio technoleg i reoli eu hiechyd, rydym yn helpu i wella'r gofal y mae pobl yng Nghymru yn ei dderbyn. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws ac yn fwy effeithlon i'n hysbytai a lleoliadau iechyd eraill ddarparu gofal i'r rhai na allant neu nad ydynt am ddefnyddio technoleg.