Mae systemau cyfrifiadurol meddygon teulu yn ganolog i ofal sylfaenol ac maent yn rheoli miliynau o gofnodion cleifion yn flynyddol. Gall y cofnodion electronig sydd gan feddygon teulu yng Nghymru ddarparu gwybodaeth feddygol hyd oes am eu cleifion.
Rydym ni’n darparu ystod ddatblygol o offer digidol i feddygon teulu, sy’n cyrchu a rheoli’r cofnodion hyn ac yn helpu meddygon teulu i drefnu eu tasgau dyddiol a gofalu am gleifion.
- Mae Cais am Brawf gan Feddyg Teulu yn system electronig ar gyfer ceisiadau a chanlyniadau prawf
- Mae GP2GP yn caniatáu i feddyg teulu anfon cofnodion cleifion yn electronig i bractisau eraill yng Nghymru
- Cyflwynwyd Skype for Business i gynorthwyo cyfathrebu a chysylltu â chymunedau ehangach
- Terminoleg glinigol SNOMED, i gynorthwyo rhannu data
- Mewn partneriaeth â Hewlett Packard, rydym yn galluogi danfon, gosod, cefnogi a chynnal holl argraffwyr newydd meddygon teulu.