Ffocws ar y Gwasanaeth Argraffu a Reolir

Efallai nad yw darparu set ddibynadwy o argraffwyr yn swnio fel y datblygiad mwyaf cyffrous ym maes TG, ond i feddygfeydd sy’n dibynnu’n gyfan gwbl ar argraffwyr i gynhyrchu presgripsiynau, mae cael gwasanaeth dibynadwy yn hollbwysig ar gyfer gofal cleifion.

 

Siaradom ni â Paul Littlejohns, Rheolwr Meddygfa Penybryn, sydd wedi bod yn rhan o gynllun peilot y Gwasanaeth Argraffu a Reolir. Er nad yw’r feddygfa fach yma yng Ngorseinon ger Abertawe, sydd â llai na 5,000 o gleifion cofrestredig, gyda’r mwyaf o ran defnyddwyr argraffwyr, mae hyd yn oed meddygfa o faint cymedrol yn argraffu dros 2,000 o bresgripsiynau bob mis.

 

Dywedodd Paul: “Cawsom ni nifer o broblemau gyda’r hen argraffwyr, a threuliais i nifer fawr o oriau bob wythnos yn ceisio’u trwsio nhw. Byddai’r peiriannau’n jamio a’r papur yn mynd yn sownd, ac ni fyddai’r cetris yn gweithio o leiaf ddwy neu dair gwaith bob wythnos.” Yn amlwg, nid dyma’r defnydd gorau o amser Paul fel rheolwr y feddygfa, a byddai’r sefyllfa’n effeithio ar y cleifion oedd yn aros am eu presgripsiynau, yn ogystal â’r meddygon eu hunain.

 

Fodd bynnag, mae popeth wedi newid ers dechrau defnyddio’r gwasaaneth argraffu a reolir, fel yr esboniodd Paul: “Mae’r argraffwyr newydd i’w gweld yn fwy effeithlon, felly nid oes angen i mi dreulio unrhyw amser yn eu trwsio. Ar ben hynny, mae cetris newydd yn cael eu hanfon atom yn y post gan fod y system yn gwybod pan mae’r inc ar fin rhedeg allan. O ganlyniad, nid yw’r argraffwyr yn segur o gwbl. Mae cael system awtomeiddio yn gadarnhaol tu hwnt.”

 

Yn ogystal ag argraffu presgripsiynau, mae’r feddygfa’n argraffu adroddiadau yswiriant cyson. “Mae’r adroddiadau hyn yn gallu bod rhwng 50 a 100 tudalen o hyd, ac rydym yn argraffu tri neu bedwar bob wythnos,” ychwanegodd Paul.

 

I orffen, dywedodd: “Mae angen gwasanaeth argraffu effeithlon arnom ac rwy’n credu mai dyna beth sydd gennym yn awr.”
Mae canlyniadau’r cynllun peilot yn gadarnhaol iawn, a bydd y system yn dechrau cael ei chyflwyno ledled Cymru yn hwyrach eleni.