Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith uwchraddio mawr ar gyfer TG a meddalwedd yn labordai patholeg GIG Cymru

Mae chwe labordy patholeg GIG Cymru wedi cael caledwedd TG newydd ac mae eu meddalwedd wedi’i huwchraddio, sy’n golygu gwelliannau i’r system, gwell gwytnwch a phroses rheoli data haws.

Gan weithio’n agos gyda’r cyflenwr InterSystems, llwyddodd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i gwblhau’r gwaith uwchraddio mawr i’r system labordy genedlaethol dros un penwythnos ym mis Rhagfyr. Gwnaeth y cynllunio gofalus olygu bod cyn lleied â phosibl o darfu.

Cyflwynwyd System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru (WLIMS) yn 2013 ac mae’n rhan hanfodol o’r TG gofal iechyd modern a ddefnyddir i gefnogi gofal cleifion.  Bydd y gwaith uwchraddio yn diogelu’r system tan 2025.

Caiff miloedd o brofion diagnostig eu prosesu bob dydd, ac mae gwasanaethau patholeg yn chwarae rhan allweddol ym mhob agwedd ar ofal cleifion ac maent yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn pandemig COVID-19.

Mae tua 70% o’r holl ddiagnosisau clinigol yng ngofal sylfaenol ac eilaidd yn dibynnu ar wybodaeth a chyngor gan batholegwyr.  Bob blwyddyn, mae’r system yn prosesu tua 30 miliwn o ganlyniadau profion, a gellir cael mynediad at y rhain o fewn eiliadau. Ym mis Rhagfyr yn unig, ymdriniodd WLIMS â dros hanner miliwn o brofion COVID-19 a thros 2.3 miliwn o brofion nad oeddent yn ymwneud â COVID-19.

Caiff canlyniadau gan WLIMS eu rhannu’n electronig gyda meddygon gofal eilaidd drwy Borth Clinigol Cymru, gyda meddygon teulu drwy systemau gofal sylfaenol, a chyda nifer o systemau clinigol gofal arbenigol.

 

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/01/21