Mae nifer o gyfleoedd dysgu a datblygu yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sy’n cynnwys mynediad at y canlynol: -
- Ystod eang o gymwysterau academaidd wedi’u hariannu’n llawn a/neu’n rhannol, sy’n amrywio o gymhwyster proffesiynol i PhD.
- Llwyfan eDdysgu sy'n cynnwys dros 1000 o gyrsiau a fideos sy'n ymdrin â phynciau technegol personol a phynciau sy'n ymwneud â gwaith
- Amrywiaeth o raglenni a gweminarau Arwain a Rheoli
- Cysgodi a lleoliadau gwaith byr
- Rhaglenni hyfforddi mewnol pwrpasol, sy’n cael eu datblygu i ddiwallu anghenion hyfforddi ein pobl