Er mwyn deall a rhagweld y galw ar wasanaethau iechyd a gofal yn ystod pandemig COVID-19, mae’n hollbwysig meddu ar ddata yn gyflym.
Gan weithio ar y cyd â byrddau iechyd, mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi datblygu hwb data newydd ar garlam, er mwyn i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau weld ymateb ‘GIG Cymru’ i’r pandemig mewn amser real.
Mae'r hwb data yn dwyn gwybodaeth ynghyd o ffynonellau gwahanol, gan ddarparu ffynhonnell dystiolaeth mewn un lle am sefyllfa sy'n newid yn gyflym.
Cesglir data o bob rhan o GIG Cymru, ysbytai, practisiau meddygon teulu, gofal brys, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, 111 a chanolfannau galwadau Galw Iechyd Cymru ac fe'i cyfunir â chanlyniadau profion COVID-19.
Mae data a gesglir, a gedwir yn ddiogel yn warws data GIG Cymru, yn cael eu glanhau, eu gwneud yn ddienw a'u hintegreiddio i ddarparu'r metrigau a'r dystiolaeth wyddonol sy'n ofynnol i gynorthwyo dealltwriaeth ar lefel leol, genedlaethol ac ar lefel y DU.
Mae'r adroddiadau sydd ar gael yn dangos statws ymateb GIG Cymru i COVID-19. Nid yw'r hwb data yn darparu mynediad at unrhyw ddata ar lefel cleifion.
Er mwyn wynebu sefyllfa sy'n newid yn barhaus, mae'r hwb data yn cael ei ddatblygu'n barhaus. Lansiwyd y fersiwn gyntaf ar ddechrau mis Ebrill 2020.
Mae'r adroddiadau data sydd ar gael yn dangos:
Trwy ddefnyddio'r adroddiadau a ddaw o’r hwb data, bydd y rhai sy'n gwneud penderfyniadau’n gallu:
Mae'r holl ddata'n cael eu cadw'n ddiogel gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac mae'n ddarostyngedig i'r fframwaith llywodraethu gwybodaeth (dolen i'r Dudalen Llywodraethu Gwybodaeth) a'r ddeddfwriaeth diogelu data a ddefnyddiwn yn ein gwaith beunyddiol.