Oeddech chi’n gwybod eich bod chi’n gallu defnyddio ffôn symudol, llechen gyfrifiadurol neu gyfrifiadur i ganslo apwyntiad gyda’ch meddyg teulu, neu wneud cais am bresgripsiwn amlroddadwy? Yr holl sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru i ddefnyddio gwasanaethau Fy Iechyd Ar-lein.
Hefyd, gallwch ddefnyddio Fy Iechyd Ar-lein i weld meddyginiaethau ac alergeddau. Gall cleifion mewn rhai meddygfeydd weld eu cofnod meddyg teulu'n fwy manwl, a allai gynnwys imiwneiddiadau'r claf.
Yn yr un modd â bancio ar-lein, gallwch gofrestru ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau ar-lein gan eich meddyg teulu. Ond bydd y rhain yn amrywio o bractis i bractis, ac yn dibynnu ar yr hyn y mae eich practis yn ei gynnig.
Gallwch chi gweld pa wasanaethau sydd ar gael yn eich feddyg teulu gan edrych ar wefan Galw Iechyd Cymru.
Mae manteision gwasanaethau ar-lein yn cynnwys:
Sut galla’ i wneud hyn?
Bydd angen i chi alw heibio eich practis meddyg teulu a chofrestru. Bydd eich meddyg teulu’n rhoi llythyr cofrestru i chi, a bydd angen i chi gael tystiolaeth adnabod gyda chi i’w galluogi i wneud hyn.
Cysylltwch â’ch meddyg teulu i weld a ydynt yn cynnig Fy Iechyd Ar-lein.
Mynediad diogel
Mae’r holl wybodaeth bersonol ar Fy Iechyd Ar-lein yn cael ei ddiogelu gan ddefnyddio’r diogelwch rhyngrwyd gorau oll.
Blwch ticio ar boster ffotograff
Cwestiynau Cyffredin Fy Iechyd Ar-lein