Dogfennau Digidol
Mae nyrsio yn cael ei drawsnewid i greu ffordd ddigidol o weithio. Mae’r ymarfer presennol o gofnodi a chadw cofnodion papur wedi mynd yn faich, ac mae’n cymryd staff rheng flaen i ffwrdd o weithgareddau gofal.
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws GIG Cymru i gynhyrchu dogfennau nyrsio digidol sy’n dilyn claf trwy ei daith gofal iechyd, gan ddefnyddio’r un iaith nyrsio safonol i leihau dyblygu a gwella profiad a gofal cleifion.
Mae cynrychiolwyr clinigol o bob ymddiriedolaeth a bwrdd iechyd yng Nghymru yn arwain y prosiect i sicrhau ei fod yn addas at y diben, yn canolbwyntio ar y claf, ac yn alinio â’r broses nyrsio. Fel man cychwyn, mae’r timau wedi pennu mai’r set gyntaf o ddogfennau i’w safoni a’u datblygu’n ddigidol yw:
Rhestr Wirio ar gyfer Rhyddhau
Mae’r rhain wedi cael eu dewis ar sail amlder defnydd, a’r rheiny sydd â’r potensial mwyaf i wella asesiad cleifion, llywio cynllunio gofal, a gwella diogelwch a chanlyniadau cleifion.
Caiff cylchlythyron am y prosiect eu cynhyrchu’n rheolaidd, sy’n cynnwys gwybodaeth am gynnydd:
Cylchlythyr e-nyrsio argraff 1
Cylchlythyr e-nyrsio argraff 2
Cylchlythyr e-nyrsio argraff 3
Cylchlythyr e-nyrsio argraff 4
Defnydd cyfathrebu ar gael ar gyfer codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo: