Desk Gwasanaeth

Mae Desg Gwasanaeth Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) yn ddesg gwasanaeth TG fawr sy'n darparu cefnogaeth i lawer o ddarparwyr Gofal Iechyd yn GIG Cymru.

Desg Gwasanaeth NWIS yw’r prif gyswllt ar gyfer pob digwyddiad sy'n gysylltiedig â TG a cheisiadau gwasanaeth ar gyfer cwsmeriaid a gefnogir.

Os ydych chi'n ddefnyddiwr mewn bwrdd iechyd, cysylltwch â'ch Desg Gwasanaeth TG Lleol.

Os ydych chi'n bractis meddyg teulu, cysylltwch â Desg Gwasanaeth Gofal Sylfaenol: primarycare.servicedesk@wales.nhs.uk

Diffinnir ‘digwyddiad’ fel unrhyw beth sy'n tarfu ar sut mae gwasanaeth yn gweithredu fel arfer. 

Byddai enghreifftiau o hyn yn cynnwys caledwedd cyfrifiadurol neu gymhwysiad meddalwedd nad yw’n gweithio'n iawn.

Diffinnir cais am wasanaeth fel cais i ddarparu rhywbeth.

Byddai enghreifftiau o hyn yn cynnwys ailosod cyfrinair, cyfrif defnyddiwr newydd neu gais am ychydig o wybodaeth.

 

Dolenni defnyddiol

Ynglŷn â Desg Gwasanaeth NWIS

Cysylltu â ni

Ardystiad SDI

 

Angen rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaethau TG a ddarparwn, cysylltwch â ni a bydd aelod o'r tîm yn hapus i’ch helpu.