Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriadau Fideo ar gyfer Fferyllwyr, deintyddion ac optometryddion

Mae fferyllwyr, deintyddion ac optometryddion wedi bod yn treialu Gwasanaeth Ymgynghori Fideo’r GIG ar ôl ei lwyddiant ymhlith meddygon teulu. Mae adborth gan ddefnyddwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn gyda sylwadau megis ‘gostyngiad yn amser teithio cleifion, llai o lanhau a diheintio ystafelloedd’ a ‘gwell proses frysbennu i arbed apwyntiadau wyneb yn wyneb’.

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi darparu hyfforddiant ar gyfer y gwasanaeth – ac mae wedi derbyn sgôr da iawn neu ragorol gan 96% o ymatebwyr. Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys sesiynau grŵp byw o bell a gynhaliwyd trwy Microsoft Teams.

Dywedodd un fferyllydd bod gan y gwasanaeth ymgynghori fideo “safon galwad arbennig ar gyfer yr ymgynghoriad â’r claf. Mae’n fuddiol gallu teipio’r wybodaeth i’r claf ei gweld, a gweld os nad yw’r claf yn deall rhywbeth.”

Nododd adborth pellach fod gan y gwasanaeth sawl defnydd ar draws y proffesiynau, gan gynnwys gwasanaethau anhwylderau cyffredin, cyflenwadau meddyginiaethau brys, adolygiadau meddyginiaeth rhyddhau a mwy mewn fferyllfeydd. Canfu deintyddiaeth ac optometreg ddefnyddiau ar gyfer adolygiadau ôl-driniaeth, apwyntiadau dilynol a thrafodaethau cynlluniau triniaeth.

Cynigir y gwasanaeth trwy fynegiant o ddiddordeb, ac anogir y proffesiynau yn weithredol i e-bostio’r cysylltiadau perthnasol (a ddarperir isod) i ofyn am ddefnyddio Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru:

Fferylliaeth –CPICT@wales.nhs.uk

Deintyddiaeth – GDP@wales.nhs.uk

Optometreg – NWI.optometryICT@wales.nhs.uk

Mae Pecynnau Cymorth Ymgynghori Fideo hefyd ar gael sy’n cynnwys adnoddau ar gyfer pob proffesiwn.

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn gweithio ochr yn ochr â GIG Cymru a TEC Cymru i ddarparu’r Gwasanaeth Ymgynghori Fideo wedi’i bweru gan Attend Anywhere (AA).

 

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/10/20

Diweddarwyd ddiwethaf: 20/10/20