Neidio i'r prif gynnwy

Mwy o ddiogelwch

Mae holl aelodau staff ein tîm Llywodraethu Gwybodaeth wedi llwyddo i ennill tystysgrif Ymarferydd Diogelu Data BCS.

Bellach, rydym yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 ac, yn bwysicach fyth, gallwn sicrhau bod  diogelu data ein cleifion wrth wraidd ein sefydliad.

Mae Tystysgrif Diogelu Data BCS - sef sefydliad siartredig maes TG - yn darparu cymhwyster sylfaenol i'r rheiny sydd â chyfrifoldebau cysylltiedig â diogelu data.