Neidio i'r prif gynnwy

"Trawsnewidiad go iawn" - datblygiad cyflym System Imiwneiddio Cymru yn hybu darpariaeth y brechlyn

5 Hydref 2021

Mae Bwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi clywed sut mae graddfa a chyflymder gwaith datblygu hyblyg ar gyfer System Imiwneiddio Cymru yn “drawsnewidiad go iawn” ac yn “hanfodol i lwyddiant y rhaglen [brechu torfol Cymru]” yn ei gyfarfod bwrdd ym mis Medi.

Gwnaed y sylwadau gan Grant Davies, Pennaeth Cynllunio a Pherfformiad Rhaglen Frechu Torfol Aneurin Bevan, wrth iddo roi adborth am ei brofiad o weithio gyda thîm WIS, a gaiff ei arwain gan Gillian Davidson, Perchennog Cynnyrch Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Dywedodd Grant bod WIS yn “symudiad patrymol, mewn gwirionedd, yn y gallu i ddarparu rhaglen mor gymhleth ar y fath raddfa a chyflymder. 

“Yn fy swydd ac i fy nghymheiriaid mewn byrddau iechyd eraill, ni sy’n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau y caiff cynigion lluosog o frechiadau eu gwneud i’r boblogaeth gyfan yn deg, o fewn meini prawf penodedig ac amserlen benodol, gan ystyried nifer o risgiau a ffactorau oedran ar draws nifer fawr o leoliadau. Mae’r pedwar cam gwahanol o’r cwrs brechu a sicrhau y caiff pob brechiad ei gofnodi’n gywir yn galluogi amserlennu ychwanegol yn unol â’r cyfnodau a nodir ac a addasir yn achlysurol gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCBI). 

“Byddai hynny wedi bod yn heriol tu hwnt heb System Imiwneiddio Cymru, os nad yn amhosibl... nid y modd y cafodd y system ei datblygu sydd wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen yng Nghymru, ond sut y cafodd ei haddasu a sut yr esblygodd ymhellach dros gyfnod mor fyr yn seiliedig ar anghenion ac adborth defnyddwyr hefyd.

“Rydym wedi mynd i’r afael â llawer iawn, iawn o newidiadau ar hyd y ffordd, ac unwaith eto, mae’r hyblygrwydd y mae’r system a’r cydweithwyr... wedi’u dangos wedi bod yn anghredadwy ac mae hynny mor drawiadol. Mae’r cynnyrch a ddarparwyd i’r defnyddwyr wedi bod o safon pum seren, heb os.

“Mae ymrwymiad a gallu[’r tîm] drwy’r cyfnod cyfan o’r cyfnod cynllunio cychwynnol i’r hyn sydd bellach yn gyfnod brechiad atgyfnerthu neu drydydd dos wedi bod yn ddigyffelyb i unrhyw beth yn fy mhrofiad o waith partneriaeth ... mae’r tîm yn glod mawr i Iechyd a Gofal Digidol Cymru, y GIG a thrigolion Cymru.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r system hon ... nid yw’n danddatganiad, mae wedi bod yn symudiad patrymol ac yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen hon yng Nghymru.”

Gwyliwch adborth Grant yn llawn yn fideo’r cyfarfod bwrdd [o 00:28:57].