Neidio i'r prif gynnwy

System Adran Achosion Brys newydd yn mynd yn fyw

16 Rhagfyr 2021

Uned Mân Anafiadau Castell-nedd Port Talbot yw'r cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio system genedlaethol newydd ar gyfer Adrannau Achosion Brys (A&E). Bydd y system ddigidol yn cael ei defnyddio yn lle cofnodion papur a bydd yn darparu grid olrhain electronig a fydd yn rhoi gwybodaeth amser real i weithwyr gofal iechyd proffesiynol am driniaeth claf.

Cyn hyn, roedd yr Uned Mân Anafiadau yn defnyddio cofnodion papur yr uned mân anafiadau i gofnodi gofal cleifion, ond mae'r system newydd yn creu cofnodion digidol y gellir eu rhannu'n ddiogel ac yn gyflym ag adrannau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.

Yn dilyn lansiad llwyddiannus y system yng Nghastell-nedd Port Talbot, bydd yn cael ei rhoi ar waith yn Ysbyty Treforys yn Abertawe yn gynnar yn ystod 2022, a'i chyflwyno i rannau eraill o Gymru yn ystod y flwyddyn nesaf.