Neidio i'r prif gynnwy

Mae cefnogaeth DHCW ar gyfer Pàs Covid y GIG yn cynnwys pasiau digidol a phapur

27 Ionawr 2022

Mae dinasyddion yng Nghymru yn gymwys i gael copi o'u Pàs Covid ar yr amod eu bod wedi cael dau ddos o frechlyn cymeradwy (neu un dos sengl o frechlyn 'Janssen') trwy ap digidol a fersiwn papur, y mae'r ddau ohonynt yn cael eu cefnogi gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).
 
Mae Pàs Covid y GIG yn caniatáu i bobl rannu eu statws brechu rhag coronafeirws a chanlyniadau prawf sydd bellach yn ofynnol pe byddech yn dymuno teithio dramor i rai gwledydd, neu fynychu digwyddiadau neu leoliadau penodol yng Nghymru neu Loegr.
 
Mae DHCW yn darparu cefnogaeth i'r Pàs Covid drwy anfon cofnodion brechu a gofnodwyd yng Ngwasanaeth Imiwneiddio Cymru at ein partner NHS Digital sy'n rheoli'r gwasanaeth drwy integreiddio Cofnod Pandemig Cymru.
 
Mae dinasyddion Cymru hefyd yn gallu gofyn am fersiwn papur o'u Pàs Covid y GIG os na allant wneud cais ar-lein. Rhoddir tystysgrifau papur ar yr amod bod y dinesydd wedi cael cwrs llawn o'r brechiad COVID-19 ac yn 12 oed neu'n hŷn.
 
Er mwyn cefnogi'r broses pàs papur, mae DHCW wedi datblygu dangosfwrdd y mae gan ‘Dîm Canolfan Celloedd Pàs Papur' fynediad iddo sy'n pennu cymhwysedd i gael pàs papur, ac sy'n creu cofnod brechu printiedig i'w argraffu ar ddeunydd ysgrifennu diogel unwaith y bydd y meini prawf wedi'u bodloni. 
 
Gall dinasyddion yng Nghymru fewngofnodi i llyw.cymru/cael-eich-pas-covid-y-gig, cofrestru ar gyfer Mewngofnodi'r GIG ac, ar ôl eu dilysu'n llwyddiannus, gweld eu pasiau teithio domestig a rhyngwladol COVID-19 pryd bynnag y bo angen.