Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Gwaith wedi'i Gynllunio ar gyfer Gwasanaethau Digidol GIG Cymru

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio gyda Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ledled GIG Cymru i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd modern, sydd wedi'u galluogi gan dechnoleg. Mae hyn yn cynnwys rheoli a dadansoddi data a gwybodaeth bwysig mewn seilwaith cadarn.

Bydd seilwaith digidol GIG Cymru yn mynd trwy nifer o ddatblygiadau technegol dros yr ychydig fisoedd nesaf a fydd yn gwella ei wasanaethau i ddefnyddwyr ledled GIG Cymru.

Meddai Carwyn Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr TGCh Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW): “Mae uwchraddiadau a gwaith cynnal a chadw rheolaidd i’n seilwaith yn rhan bwysig o’r hyn a wnawn yn DHCW, gan ei fod yn golygu ein bod bob amser ar y droed flaen o ran darparu gwasanaethau digidol.”