Neidio i'r prif gynnwy

Gwell mynediad at wybodaeth am gleifion ar gyfer Dewis Fferyllfa

2 Gorffennaf 2021

Bydd fferyllwyr cymunedol yng Nghymru yn cael gwell mynediad at gofnodion meddygol meddygon teulu cleifion fel rhan o’r gwasanaeth Dewis Fferyllfa, i’w helpu i ofalu am fwy o bobl â mân afiechydon.

Mae cytundeb newydd rhwng GPC Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn golygu y bydd fferyllwyr yn cael mynediad at gofnod meddyg teulu claf, gyda’i gysyniad, i gefnogi gwneud penderfyniadau diogel ac effeithiol.

Mae fferyllwyr cymunedol ledled Cymru eisoes yn gallu defnyddio'r gwasanaeth Dewis Fferyllfa i gael mynediad at gofnod meddyg teulu’r claf i gefnogi rhai agweddau ar ofal, megis ar gyfer presgripsiynau am feddyginiaeth frys neu i'w ddefnyddio gan fferyllwyr sydd hefyd yn Bresgripsiynwyr Annibynnol. Defnyddir Dewis Fferylliaeth hefyd i gofnodi ymgynghoriadau, rhannu gwybodaeth â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthnasol, a chynhyrchu hawliadau am daliad. 

Mae cymeradwyaeth gan GPC Cymru bellach yn golygu y gellir datblygu Dewis Fferyllfa i gynnwys mynediad WGPR ym mhob modiwl cyfredol ac yn y dyfodol a bydd mynediad WGPR wedi'i gyfyngu i ddefnyddwyr fferylliaeth gymunedol sydd wedi'u hachredu'n briodol.

Gan fod llawer o fferyllfeydd yn cynnig nifer cynyddol o wasanaethau'r GIG, mae angen mynediad i fferyllwyr cymwys at gofnod meddygol y claf i sicrhau gofal diogel ac effeithiol.

Croesawodd Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Llywodraeth Cymru y cytundeb, ac fe ddywedodd:

“Mae’r cytundeb rhwng GPC Wales a Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gam pwysig ymlaen o ran rhoi mynediad i fferyllwyr sy’n gweithio yn y gymuned at yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw er mwyn iddyn nhw ddarparu gofal fferyllol o’r safon uchaf. 

“Mae rhoi mynediad ehangach i fferyllfeydd cymunedol at Gofnod Meddygon Teulu Cymru yn cydnabod y cyfraniad clinigol cynyddol y gall fferyllwyr cymunedol ei wneud i wella iechyd pobl Cymru.”