Neidio i'r prif gynnwy

Ysgrifennydd Bwrdd newydd wedi'i benodi i Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Penodwyd Ysgrifennydd Bwrdd sydd â phrofiad helaeth mewn llywodraethu gofal iechyd i'r Awdurdod Iechyd Arbennig newydd - Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a fydd yn cael ei lansio ar 1 Ebrill 2021, sy’n disodli Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.

Mae Chris Darling yn ymuno â'r sefydliad newydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, lle mae ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Busnes Corfforaethol ac yn Bennaeth Staff i'r Prif Weithredwr. Mae'r cyfrifoldebau allweddol yn y rôl hon yn cynnwys arwain ar ymateb y Bwrdd Iechyd i'w statws uwchgyfeirio (Mesurau Arbennig ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth ac Ymyrraeth wedi'i Dargedu ar gyfer Ansawdd a Llywodraethu) a fframwaith gwella Cwm Taf Morgannwg ar gyfer Ansawdd a Llywodraethu.

Treuliodd Chris 10 mlynedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro lle bu'n ymwneud â chynllunio a rheoli strategol y Rhaglen Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Dechreuodd Chris ei yrfa fel archwilydd mewn cwmni cyfrifeg siartredig, gan ymgymryd ag aseiniadau ymgynghori a oedd ymwneud yn bennaf â sefydliadau'r sector cyhoeddus. Ymunodd â'r GIG yn ardal Southampton yn 2004 cyn symud i Gymru yn 2007.

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Chris: “Mae’n deimlad cyffrous i mi ymuno â'r sefydliad newydd ar y dechrau. Rwy’n angerddol am lywodraethu corfforaethol, a chredaf fod llywodraethu da yn rhoi sylfaen ar gyfer perfformiad uchel sefydliadol, yn ogystal â mwy o ymddiriedaeth a hyder gan randdeiliaid.”

Chris yw'r ail berson i gael ei benodi i'r sefydliad newydd a bydd yn ymgymryd â'i rôl ym mis Chwefror, gan ymuno â Bob Hudson, y Cadeirydd Dros Dro.

Dywedodd Bob Hudson: “Rwy’n falch iawn bod Chris am ymuno ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae’n dod â chyfuniad gwerthfawr o sgiliau a gwybodaeth gydag ef a fydd yn allweddol i sefydlu a bwrw ymlaen â gwaith strategol ein Bwrdd newydd.”

 

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/21