Neidio i'r prif gynnwy

System fferylliaeth ysbytai Cymru Gyfan yn mynd yn fyw yn Aneurin Bevan

Yn barod ar gyfer agor Ysbyty Athrofaol y Faenor ym mis Tachwedd 2020, ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw'r cyntaf yng Nghymru i roi system fferylliaeth newydd ar waith fel rhan o gynllun mawr i foderneiddio fferylliaeth a phresgripsiynu. 

Mae’r system fferylliaeth newydd yn cynnig ffordd fwy effeithlon a chyson o weithio ledled ysbytai yng Nghymru. Mae'r system yn cysylltu data dosbarthu a defnyddio meddyginiaeth trwy ddefnyddio safonau a gydnabyddir yn genedlaethol, gan roi golwg mwy cynhwysfawr, amser real ar wybodaeth. Dyma’r cam cyntaf ar y daith i weithredu presgripsiynu electronig cenedlaethol a rhoi meddyginiaethau. 

Meddai Colin Powell, Prif Fferyllydd - Gwasanaethau Acíwt yn Aneurin Bevan, “Bydd hon yn ffordd newydd i fferylliaeth mewn ysbytai weithio. Mae’r data a’r adrodd yn well a bydd hyn yn llunio gwasanaethau yn y dyfodol.” 

Dyluniwyd y system, a ddatblygwyd gan WellSky, i wella cywirdeb dosbarthu cyfrifiadurol a rheoli stoc meddyginiaethau. Mae’r system hon yn disodli meddalwedd sy’n 30 oed, ac mi fydd yn sicrhau gwell perfformiad, bydd yn fwy dibynadwy a bydd yn rheoli meddyginiaethau yn fwy effeithlon. Bydd hi hefyd yn gwella eglurder y data a gofnodir, gan sicrhau cydymffurfiad pellach â llywodraethu cenedlaethol, a fydd yn golygu y bydd cleifion yn cael gofal mwy diogel a chyson. 

 

Bydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a WellSky yn rhoi’r system ar waith yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Nevill Hall, Ysbyty Ystrad Fawr, Ysbyty Athrofaol y Faenor ac Ysbyty Aneurin Bevan o 9Dachwedd 2020. Bydd y system hon yn parhau i gael ei chyflwyno i'r byrddau iechyd sy'n weddill trwy 2020 hyd at fis Gorffennaf 2021. 

 

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/11/20