Neidio i'r prif gynnwy

Nod gwefan newydd yw gwella canlyniadau iechyd i bobl Cymru gan ddefnyddio dangosfyrddau data

Mae gwefan newydd wedi'i lansio i arddangos y rhaglen Gwerth mewn Iechyd genedlaethol yng Nghymru.

Mae'r rhaglen waith hon yn ymdrechu i gyflawni dull gofal iechyd yn seiliedig ar werth ar draws GIG Cymru a chefnogi pedair egwyddor gofal iechyd darbodus.

Y weledigaeth yw gweithio ar y cyd â sefydliadau i wella'r canlyniadau iechyd sydd bwysicaf i bobl Cymru. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) wrthi'n cefnogi'r rhaglen trwy ddatblygu cynhyrchion a dadansoddiad gwybodaeth, gan ddod â data a gasglwyd yn genedlaethol gan gleifion, canlyniadau clinigol, canlyniadau a adroddir gan gleifion a chostio ariannol ynghyd, i lywio dull o drawsnewid gwasanaethau a chynaliadwyedd sy'n seiliedig ar werth.  
Lansiwyd y wefan yn swyddogol yn dilyn yr wythnos ‘Gwerth mewn Iechyd’ ddiweddar (12-16 Hydref 2020), pan lansiwyd dau ddangosfwrdd data newydd hefyd.
Cyflwynodd Sally Cox, Prif Arbenigwr (Gwybodaeth) yn NWIS y dangosfyrddau yn y digwyddiad. Meddai:
“Rhyddhaodd tîm Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth y Gwasanaethau Gwybodaeth ddau ddangosfwrdd data arall ar gyfer y tîm Gwerth mewn Iechyd cenedlaethol fel rhan o ‘Wythnos Gwerth mewn Iechyd ’: Dangosfwrdd Methiant y Galon a dangosfwrdd Cymalffurfiad Pen-glin. Cynhyrchwyd y dangosfyrddau ar gyfer clinigwyr, cynllunwyr byrddau iechyd, rheolwyr a defnyddwyr gwasanaeth i gefnogi gofal uniongyrchol, cynllunio gwasanaeth a gwella ansawdd.
“Mae’r datganiad hwn yn nodi cam cyntaf y dangosfyrddau hyn a’r gobaith yw y bydd y dangosfyrddau hyn yn esblygu ac yn cael eu llywio gan y grwpiau cyfeirio arbenigol wrth symud ymlaen.”

Noder:  Mae'r dangosfyrddau ar gael ar y cyd i bawb yn y GIG. Gall defnyddwyr arbenigol a'r rhai sydd â'r mynediad gofynnol gael gafael ar fersiynau manylach o'r dangosfyrddau trwy ofyn am fynediad atynt trwy eu Pennaeth Gwybodaeth neu Warcheidwad Caldicott.

 

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/11/20