Neidio i'r prif gynnwy

Mae myfyrwyr yn canmol graddau digidol

Mae myfyrwyr sydd ar fin cychwyn ar ail flwyddyn eu graddau sy'n cael eu rhedeg gan Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru wedi siarad am ba mor ddefnyddiol mae’r cwrs wedi bod iddynt.

Dywedodd Jess Marfell, myfyriwr ail flwyddyn, fod y cyfle wedi ei helpu i ddatblygu yn ei gyrfa, “Dros y flwyddyn diwethaf rydw i wedi dysgu sgiliau rydw i wedi eu cymhwyso i'm rôl, ac rydw i wedi symud ymlaen yn llwyddiannus yn y sefydliad” meddai, “Mae wedi rhoi’r hyder a’r wybodaeth dechnegol i mi ddod yn ôl at fy ngyrfa broffesiynol.”

Mae naw o'r myfyrwyr ar ail flwyddyn y graddau rhan amser yn gweithio i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS). Maent i gyd yn cwblhau cyrsiau naill ai mewn Systemau Data a Gwybodaeth; Systemau Busnes a Gwybodaeth; Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch neu Beirianneg Meddalwedd.

Mae Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru yn bartneriaeth rhwng Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae'n cefnogi datblygiad gweithlu digidol ar gyfer gwybodeg iechyd. Mae'r graddau wedi'u hachredu gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain sy'n rhoi statws TG Siartredig Proffesiynol (CITP) i raddedigion. Yn ogystal, enillodd y rhaglenni peirianneg meddalwedd statws Peiriannydd Siartredig rhannol (CEng).   

Dywedodd yr Athro Wendy Dearing, Pennaeth y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn PCGC ac Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, “Mae'r berthynas yn dod yn broses organig gyda buddion newydd yn dod i'r amlwg yn wythnosol. Mae dosbarthiadau meistr wedi cael eu darparu gan staff Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a phrentisiaid gradd, ac yn gyfnewid mae academyddion Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyflwyno rhaglenni datblygu byr, penodol ar gyfer staff Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.”