Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) a GIG Cymru yn ennill Gwobr Nursing Times

Dywedodd Fran Beadle, Arweinydd Gwybodeg Glinigol Cenedlaethol ar gyfer Nyrsio, mai prif gyflawniad y prosiect fu cynhyrchu “iaith nyrsio safonol a gymeradwywyd yn genedlaethol sydd wedi galluogi datblygu platfform digidol cenedlaethol sy'n cefnogi nyrsio ar sail tystiolaeth i wella canlyniadau ac i ofalu am ddinasyddion Cymru”.

Enw'r platfform digidol yw Cofnod Gofal Nyrsio Cymru, ac mae wedi'i dreialu ar wardiau ledled Cymru. Bydd yn cael ei gyflwyno i fwy o wardiau dros y misoedd nesaf. Ychwanegodd Claire Bevan, Uwch Berchennog Cyfrifol y Prosiect, “Mae wedi bod yn ymdrech tîm gwych gan bawb. Mae’r ffordd y mae pawb wedi dod at ei gilydd ac wedi gosod cleifion wrth wraidd y gwaith er mwyn gwella prosesau gofal nyrsio wedi creu argraff fawr arna i.”

 

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/11/20