Neidio i'r prif gynnwy

Ap symudol Porthol Clinigol Cymru ar restr fer gwobr genedlaethol

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ar restr fer Gwobr Entrepreneur Digidol ar gyfer arloesedd yn y sector cyhoeddus am yr ap symudol Porthol Clinigol Cymru.

 Gwobrau Entrepreneur Digidol, sydd yn cael eu cynnal yn Llundain ar 21 Tachwedd, yw'r unig wobrau cenedlaethol sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo entrepreneuriaeth ddigidol ac arloesedd ledled y DU.

Mae datblygiad yr ap symudol yn golygu bod clinigwyr ledled Cymru yn gallu cael mynediad i wybodaeth am eu cleifion o Borthol Clinigol Cymru wrth eu gwaith ac wrth erchwyn gwely o ddyfais symudol.  Mae'n caniatáu hysbysiadau gwthio penodol i gleifion ac yn galluogi staff clinigol i gael mynediad hefyd at ddata ar ddiagnosis, lleoliadau a gweithgarwch arfaethedig cleifion.

Dywedodd Griff Williams, rheolwr Porthol Clinigol Cymru: "Mae'r wobr hon yn cydnabod ymdrechion sylweddol ein timau datblygu, cydweithwyr rhwydwaith mewnol a diogelwch, clinigwyr sy'n cyfrannu a'r rheolwr prosiect. "Gweithiodd unigolion penodol o bob rhan o'r sefydliad ar y cyd tuag at y nod cyffredin o fynd â'r cynnyrch arloesol hwn o fod yn gysyniad trwy ymchwil a datblygu, esblygu, profi a gweithredu - trwy siopau apiau sydd ar gael yn rhyngwladol.  Mae'r ap yn chwyldroadol yn y modd mae'n caniatáu i glinigwyr gael mynediad at ddata cofnodion iechyd Cymru."