March 2020
Tachwedd 2020
Enwyd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru 'y lle gorau i weithio ym maes TG' yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU 2020

Rydym yn falch o ennill y wobr 'y lle gorau i weithio ym maes TG' yng Ngwobrau Diwydiant TG Cymdeithas Gyfrifiadura Prydain.

Gwnaeth ein hymdrechion i symud i weithio o bell yn gyflym mewn ymateb i'r pandemig argraff arbennig ar y beirniaid.

Recordiodd Helen Thomas, y cyfarwyddwr dros dro, neges fideo (isod) a chwaraewyd y neges yn ystod y seremoni rithwir lle gwnaeth hi longyfarch tîm Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru am eu holl waith caled.


Cofnodion Diabetes Digidol yn helpu gofal cleifion yn ystod y pandemig

Mae Nodyn Ymgynghori Diabetes Digidol wedi helpu i ddarparu gofal i gleifion diabetes trwy gydol pandemig COVID-19. Mae'r nodyn yn caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gofnodi a gweld darlleniadau ac arsylwadau, meddyginiaethau a gwybodaeth arall am gleifion. Mae PDF o'r nodyn ar gael ym Mhorth Clinigol Cymru, y gall clinigwyr sy'n defnyddio'r system ledled Cymru ei ddefnyddio.   
 
Dywedodd Dr Phil Evans o Ysbyty Brenhinol Morgannwg: "Yn ystod argyfwng COVID, darparwyd gofal brys i gleifion mewnol gan dimau clinigol ar batrymau sifftiau brys, a olygai fod cyfathrebu'n anodd ar brydiau. Fe wnaeth WISDM (Nodyn Ymgynghori Diabetes) alluogi gwybodaeth yn ymwneud â diabetes, gan gynnwys adolygiadau wardiau cleifion mewnol, i fod ar gael i bob tîm cleifion mewnol, gan gynnwys arbenigwyr gofal dwys, 24 awr y dydd, hyd yn oed os nad oedd y tîm diabetes ar gael."
 
Roedd y nodyn digidol diabetes ar gael o'r blaen yn ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac yn ddiweddar daeth ar gael yn Ysbyty Treforys, Abertawe. 
Cyhoeddi Cadeirydd Dros Dro Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Rydym yn falch iawn bod Bob Hudson OBE wedi'i benodi gan Lywodraeth Cymru yn Gadeirydd
Dros Dro Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Awdurdod Iechyd Arbennig newydd a fydd yn disodli Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ar 1 Ebrill 2021, ac mae ei sefydlu yn cydnabod gwerth technoleg ddigidol fel galluogwr allweddol ar gyfer newid.
 
Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Mae Mr Hudson wedi cael profiad helaeth ar lefel Bwrdd yn y GIG, gan gynnwys pedair swydd fel Prif Weithredwr, gan gynnwys sefydlu Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru fel corff cenedlaethol. Yn ogystal, roedd Mr Hudson yn Gyfarwyddwr Strategaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru. Yn ei swydd olaf cyn ymddeol, roedd Mr Hudson yn Gyfarwyddwr Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru, lle bu'n cydlynu gwaith sefydliadau'r GIG ar draws Cymru mewn cyfres o brosiectau mawr yn ymwneud â newid strategol.
 
Bydd ei brofiad ar draws Llywodraeth Cymru a'r GIG yng Nghymru yn fanteisiol iawn wrth sefydlu Iechyd a Gofal Digidol Cymru a'i le o fewn teulu GIG Cymru.  Bydd profiadau Mr Hudson yn ei alluogi i ddatblygu perthnasoedd effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, Addysg a Gwella Iechyd Cymru a'r sector iechyd a gofal yn ehangach.
 
Dywedodd Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol dros dro Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru; "Mae hwn yn gyfnod anhygoel o bwysig, a phrofiad eang Mr Hudson yw'r union beth sydd ei angen i fod yn bennaeth ar Fwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac i helpu i lunio dyfodol gwasanaethau technoleg iechyd digidol.  Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ef."



System fferylliaeth ysbytai Cymru Gyfan yn mynd yn fyw yn Aneurin Bevan

Yn barod ar gyfer agor Ysbyty Athrofaol y Faenor ym mis Tachwedd 2020, ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw'r cyntaf yng Nghymru i roi system fferylliaeth newydd ar waith fel rhan o gynllun mawr i foderneiddio fferylliaeth a phresgripsiynu. 

Mae'r system fferylliaeth newydd yn cynnig ffordd fwy effeithlon a chyson o weithio ledled ysbytai yng Nghymru. Mae'r system yn cysylltu data dosbarthu a defnyddio meddyginiaeth trwy ddefnyddio safonau a gydnabyddir yn genedlaethol, gan roi golwg mwy cynhwysfawr, amser real ar wybodaeth. Dyma'r cam cyntaf ar y daith i weithredu presgripsiynu electronig cenedlaethol a rhoi meddyginiaethau. 

Meddai Colin Powell, Prif Fferyllydd - Gwasanaethau Acíwt yn Aneurin Bevan, "Bydd hon yn ffordd newydd i fferylliaeth mewn ysbytai weithio. Mae'r data a'r adrodd yn well a bydd hyn yn llunio gwasanaethau yn y dyfodol." 

Dyluniwyd y system, a ddatblygwyd gan WellSky, i wella cywirdeb dosbarthu cyfrifiadurol a rheoli stoc meddyginiaethau. Mae'r system hon yn disodli meddalwedd sy'n 30 oed, ac mi fydd yn sicrhau gwell perfformiad, bydd yn fwy dibynadwy a bydd yn rheoli meddyginiaethau yn fwy effeithlon. Bydd hi hefyd yn gwella eglurder y data a gofnodir, gan sicrhau cydymffurfiad pellach â llywodraethu cenedlaethol, a fydd yn golygu y bydd cleifion yn cael gofal mwy diogel a chyson. 
 
Bydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a WellSky yn rhoi'r system ar waith yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Nevill Hall, Ysbyty Ystrad Fawr, Ysbyty Athrofaol y Faenor ac Ysbyty Aneurin Bevan o 9Dachwedd 2020. Bydd y system hon yn parhau i gael ei chyflwyno i'r byrddau iechyd sy'n weddill trwy 2020 hyd at fis Gorffennaf 2021. 
Nod gwefan newydd yw gwella canlyniadau iechyd i bobl Cymru gan ddefnyddio dangosfyrddau data

Mae gwefan newydd wedi'i lansio i arddangos y rhaglen Gwerth mewn Iechyd genedlaethol yng Nghymru.

Mae'r rhaglen waith hon yn ymdrechu i gyflawni dull gofal iechyd yn seiliedig ar werth ar draws GIG Cymru a chefnogi pedair egwyddor gofal iechyd darbodus.

Y weledigaeth yw gweithio ar y cyd â sefydliadau i wella'r canlyniadau iechyd sydd bwysicaf i bobl Cymru. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) wrthi'n cefnogi'r rhaglen trwy ddatblygu cynhyrchion a dadansoddiad gwybodaeth, gan ddod â data a gasglwyd yn genedlaethol gan gleifion, canlyniadau clinigol, canlyniadau a adroddir gan gleifion a chostio ariannol ynghyd, i lywio dull o drawsnewid gwasanaethau a chynaliadwyedd sy'n seiliedig ar werth.  

Lansiwyd y wefan yn swyddogol yn dilyn yr wythnos 'Gwerth mewn Iechyd' (12-16 Hydref 2020), pan lansiwyd dau ddangosfwrdd data newydd hefyd.

Cyflwynodd Sally Cox, Prif Arbenigwr (Gwybodaeth) yn NWIS y dangosfyrddau yn y digwyddiad. Meddai:

"Rhyddhaodd tîm Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth y Gwasanaethau Gwybodaeth ddau ddangosfwrdd data arall ar gyfer y tîm Gwerth mewn Iechyd cenedlaethol fel rhan o 'Wythnos Gwerth mewn Iechyd ': Dangosfwrdd Methiant y Galon a dangosfwrdd Cymalffurfiad Pen-glin. Cynhyrchwyd y dangosfyrddau ar gyfer clinigwyr, cynllunwyr byrddau iechyd, rheolwyr a defnyddwyr gwasanaeth i gefnogi gofal uniongyrchol, cynllunio gwasanaeth a gwella ansawdd.

"Mae'r datganiad hwn yn nodi cam cyntaf y dangosfyrddau hyn a'r gobaith yw y bydd y dangosfyrddau hyn yn esblygu ac yn cael eu llywio gan y grwpiau cyfeirio arbenigol wrth symud ymlaen."

Noder:  Mae'r dangosfyrddau ar gael ar y cyd i bawb yn y GIG. Gall defnyddwyr arbenigol a'r rhai sydd â'r mynediad gofynnol gael gafael ar fersiynau manylach o'r dangosfyrddau trwy ofyn am fynediad atynt trwy eu Pennaeth Gwybodaeth neu Warcheidwad Caldicott.