March 2020
Rhagfyr 2020
Bydd system ddigidol newydd yn cefnogi cyflwyno brechlyn COVID-19 yng Nghymru

Mae system ar gyfer creu a threfnu apwyntiadau brechu COVID-19 wedi cael ei datblygu gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS).


Mae'r system yn defnyddio gwybodaeth am ddemograffeg cleifion, grwpiau galwedigaeth a lefelau blaenoriaeth y cytunwyd arnynt ar gyfer derbyn y brechlyn, i ganiatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol drefnu apwyntiadau ar gyfer cleifion. Bydd yn creu slotiau apwyntiad, yn anfon llythyrau apwyntiad ac yn cofnodi manylion am bob brechlyn ar gyfer pob brechlyn COVID-19 a weinyddir yng Nghymru.

Gan fod y brechlyn yn cynnwys rhaglen dau ddos gyda phedair wythnos rhwng dosau i gyflawni'r lefel uchaf o imiwneiddiad, mae'r system hefyd yn trefnu apwyntiad dilynol yn awtomatig i bob claf dderbyn ei ail ddos.

Dywedodd Alison Maguire, Arweinydd Rhaglen System Imiwneiddio Cymru yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: "Mae'r system genedlaethol hon wedi'i chreu'n fewnol yn NWIS mewn partneriaeth â'n cydweithwyr ar draws GIG Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd yn golygu y gallwn drefnu a chofnodi pob brechiad COVID-19 yn ddiogel, ble bynnag yng Nghymru y cânt eu rhoi.

"Trwy brosesu'r wybodaeth hon yn ddigidol ac mewn un system, gellir rhoi brechiadau mor effeithlon â phosibl ar gyfer cleifion â blaenoriaeth a grwpiau galwedigaeth."

Aeth System Imiwneiddio Cymru yn fyw ar 2 Rhagfyr a bydd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru fel rhan o strategaeth Llywodraeth y DU ar gyfer holl genhedloedd y DU.
Ap Ffôn Symudol Porth Clinigol Cymru yn cael ei gydnabod am ei effaith ddigidol gyda gwobr gwyddorau bywyd

Enillodd fersiwn ap ffôn symudol Porth Clinigol Cymru y teitl yng Ngwobrau Arloesi MediWales ddechrau mis Rhagfyr.
 
Sefydlwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd am 15 mlynedd, i nodi cyflawniadau rhagorol yn y sector gwyddor bywyd yng Nghymru. Roedd y wobr Effaith Ddigidol yn un o bedwar categori sy'n cydnabod arloesedd yn y GIG.
 
Gall meddygon eisoes weld dogfennau clinigol a chanlyniadau profion yn electronig yn ysbytai Cymru trwy'r cofnod cleifion digidol yn system Porth Clinigol Cymru Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae'r ap ffôn symudol yn caniatáu i glinigwyr gael gafael ar wybodaeth berthnasol am eu cleifion o unrhyw le ac o ffôn symudol neu lechen i drin cleifion.

Mae mynediad at gofnod digidol y claf yn golygu y gall gweithwyr iechyd proffesiynol weld canlyniadau profion yn electronig, ni waeth ble y cynhaliwyd neu y proseswyd unrhyw un o'r 183 miliwn o brofion yn wreiddiol.
 
Mae defnyddwyr yr ap yn derbyn hysbysiadau Push, mae ganddynt wybodaeth am leoliad eu cleifion, gallant sweipio i ychwanegu a thynnu cleifion oddi ar restrau, gweld gweithgareddau a diagnosteg, nodiadau a thasgau yn y gorffennol a rhai sydd wedi'u cynllunio. Gallant sganio bandiau arddwrn a defnyddio eu lleisiau i roi diweddariadau ar gofnodion cleifion, gan gynnwys eu hymateb i ganlyniadau diagnostig.
 
Mae'r gallu i nodi bod cleifion wedi cael eu trosglwyddo yn uniongyrchol mewn ysbytai, sef swyddogaeth newydd sydd bellach ar gael, wedi gwella ansawdd y data'n sylweddol, ac, o ganlyniad, pa mor gyflym y mae elfennau iechyd hanfodol fel meddyginiaethau yn cael eu darparu.
 
Dywedodd Griff Williams, Rheolwr Cynnyrch Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru:
"Dechreuwyd Porth Clinigol Cymru Symudol fel prosiect arloesi.  Y bwriad oedd ategu cymwysiadau cenedlaethol eraill a oedd yn arddangos gwybodaeth am iechyd cleifion, gan ddefnyddio nodweddion penodol ffonau symudol, megis y camera, hysbysiad dirgryniad, swyddogaeth cylchdroi a sgrin gyffwrdd. Cyflymwyd y broses o gyflwyno Porth Clinigol Cymru Symudol mewn ymateb i Covid-19, gan ganiatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gael gafael ar ganlyniadau diagnostig ar unwaith, heb fod angen defnyddio cyfrifiadur bwrdd gwaith a rennir."

Hefyd, cyrhaeddodd Ap Ffôn Symudol Porth Clinigol Cymru rownd derfynol Prosiect Gofal Iechyd y Flwyddyn yng Ngwobrau TG y DU, a gynhaliwyd ym mis Tachwedd.
Recriwtio rolau anweithredol ar gyfer Bwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Mae'r broses recriwtio wedi dechrau i benodi is-gadeirydd a phum aelod anweithredol ar gyfer Bwrdd Iechyd Digidol a Chymru, sefydliad newydd a fydd yn cael ei sefydlu'n Awdurdod Iechyd Arbennig ar 1 Ebrill 2021.

Bydd gan yr Awdurdod Iechyd Arbennig newydd, sy'n disodli Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, rôl allweddol i'w chwarae wrth drawsnewid gwasanaethau digidol ar gyfer staff y maes iechyd a chleifion.
 
Mae hysbyseb wedi'i gosod ar Wefan Swyddfa'r Cabinet a gwefan Llywodraeth Cymru.
 
Rydym yn chwilio am bobl nad ydynt wedi bod yn rhan o fwrdd o'r blaen, a rhai profiadol, o ystod o gefndiroedd.  Er mwyn cael ei ystyried, bydd angen i unigolyn ddangos dealltwriaeth o'r materion a'r blaenoriaethau sy'n debygol o fod yn bwysig i'r sefydliad newydd,  
  • y gallu i ddwyn y swyddogion gweithredol i gyfrif am yr  hyn y maent yn ei wneud wrth gynnal perthynas adeiladol;
  • y gallu i feddwl yn strategol ac i arfer barn y gellir dibynnu arni ar ystod o faterion sensitif a chymhleth;
  • y gallu i ddadansoddi a dehongli gwybodaeth fanwl;
  • dealltwriaeth o sut mae grwpiau amrywiol yn defnyddio eu profiadau byw fel sgiliau a phrofiad trosglwyddadwy
  • * Yn ogystal, bydd gan yr Is-gadeirydd brofiad o rôl arweiniol yn y sector preifat, y sector cyhoeddus neu'r trydydd sector, a bydd yn gallu edrych tuag at y dyfodol a darparu arweinyddiaeth strategol
Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'i ymestyn i 4 Ionawr, 2021.

Diolch a Chyfarchion y Tymor

Wrth inni symud tuag at ddiwedd y flwyddyn, ar ran pawb yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, diolch yn fawr iawn i'n holl gydweithwyr sy'n gweithio'n ddiflino i ofalu am bobl mewn angen. 

Fel sefydliad, rydym yn falch o'ch cefnogi trwy ddatblygu gwasanaethau digidol a data newydd. Dyma rai o'n cyflawniadau dros y misoedd diwethaf, dangosfwrdd COVID-19, Profi Olrhain Diogelu, gweithio o bell i feddygon teulu a system newydd i gofnodi brechiadau COVID-19. 

Trwy weithio gyda chi, rydym yn dod o hyd i ffyrdd newydd y gall technoleg gael effaith a helpu staff a chleifion yn ystod y frwydr barhaus hon yn erbyn COVID-19. 

Nid blwyddyn arferol oedd 2020 ac mae wedi bod yn flwyddyn anodd i bob un ohonom. 12 mis yn ôl, ychydig iawn o bobl a fyddai wedi gallu rhagweld effaith y pandemig ar fywydau pob un ohonom.  

Ar lefel bersonol, rwy'n hynod falch o ymroddiad a gallu staff Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i addasu. Fe newidion nhw i weithio gartref dros nos gan barhau i ddatblygu meddalwedd a gwasanaethau newydd a rhoi cymorth technegol, sy'n gamp eithriadol. 

Hoffem anfon ein dymuniadau gorau atoch ar gyfer y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ac edrychwn ymlaen at barhau i ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth ddigidol i GIG Cymru. 
 
Helen Thomas 
Cyfarwyddwr Dros Dro