|
Hoffai Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ddymuno Nadolig hyfryd a Blwyddyn Newydd hapus iawn i chi a'ch teulu.
The NHS Wales Informatics Service wishes you and your family a wonderful Christmas and very happy New Year.
|
e-Atgyfeiriadau yn helpu Hywel Dda i gyrraedd targed gofal canser
Mae cleifion canser y mae angen gofal brys arnynt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn elwa ar ddefnydd gwell o atgyfeiriadau electronig.
Er mwyn gwella perfformiad o ran amseroedd aros ar gyfer cleifion y tybir bod ganddynt achos brys o ganser, mae meddygon teulu, staff cofnodion meddygol ac ymgynghorwyr Hywel Dda yn hyrwyddo'r defnydd o Wasanaeth Atgyfeirio Cleifion Cymru.
Mae'r ymdrech i gyflogi Gwasanaeth Atgyfeirio Cleifion Cymru yn fwy wedi golygu bod nifer yr atgyfeiriadau electronig y mae meddygon teulu yn eu gwneud wedi saethu o 48% ym mis Awst 2019 i 73% ym mis Tachwedd. Mae e-Atgyfeiriadau ar gyfer cleifion y tybir bod ganddynt achos brys o ganser hefyd wedi cynyddu, gan gyrraedd 96% ym mis Tachwedd. Helpodd hyn nod Hywel Dda o sicrhau bod 90% o atgyfeiriadau meddygon teulu ar gyfer cleifion y tybir bod ganddynt achos brys o ganser yn cael eu prosesu'n electronig.
Mae Gwasanaeth Atgyfeirio Cleifion Cymru yn galluogi atgyfeiriadau electronig i fynd yn uniongyrchol gan feddygon teulu i ymgynghorwyr. Mae hyn yn hanfodol pan fydd angen sylw brys ar ofal claf. Gall ymgynghorwyr gymryd nifer o gamau electronig gyda phob atgyfeiriad, gan gynnwys blaenoriaethu, dychwelyd atgyfeiriadau i'r meddyg teulu (gydag esboniad) ac ailgyfeirio cleifion i wasanaethau neu glinigau anymgynghorol.
Cyflwynwyd Gwasanaeth Atgyfeirio Cleifion Cymru yn Hywel Dda yn 2016.
|
Yn gynharach eleni, rhoddodd Emma Williams, Arweinydd Clinigol Choose Pharmacy yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, gyflwyniad ar gymhwysiad Choose Pharmacy yn y
Gynhadledd Geltaidd
yng Nghaeredin.
O'r herwydd, mynegodd aelodau o'r tîm Fferylliaeth Gymunedol o Ogledd Iwerddon eu diddordeb yn y cymhwysiad, ac roeddent yn dymuno darganfod mwy. Yn debyg i Gymru, mae gan Ogledd Iwerddon Gynllun Mân Anhwylderau ar waith mewn fferyllfeydd. Er hyn, mae'n gweithredu ar bapur yn unig ar hyn o bryd a'u nod yw trawsnewid y gwasanaeth hwn yn un digidol.
Gwahoddodd tîm Choose Pharmacy gydweithwyr o Ogledd Iwerddon i'r swyddfa yng Nghaerdydd i arddangos y cymhwysiad a rhoi trosolwg o'r gwasanaeth.
"Mae wedi bod yn grêt cael y cyfle i rannu llwyddiannau Choose Pharmacy a chymryd yr amser i fyfyrio ar ba mor bell mae'r cymhwysiad wedi dod o ran ei ddatblygiad."
Helen Thomas, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
"Roedd hwn yn ddigwyddiad arbennig - cafodd yr holl feysydd eu trafod a gwnaethant wir ragori ar ein disgwyliadau. Gwnaethom werthfawrogi ymdrech, ymrwymiad a brwdfrydedd pawb yn fawr."
Dr Vanessa Chambers, Pennaeth Polisi a Datblygu,
Fferylliaeth Gymunedol Gogledd Iwerddon
|
|
Codwyr Ifanc wedi'u hysbrydoli gan GIG Cymru
Mae miloedd o godwyr ifanc wedi cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Codio Cymru Gyfan y DVLA, gyda 200 o unigolion yn y rownd derfynol yn ymgasglu yn Abertawe y mis hwn i gyflwyno eu gwaith.
Ymunodd GIG Cymru â sefydliadau eraill, gan annog talent codio Cymru drwy osod themâu i'r unigolion 7-14 mlwydd oed greu gemau digidol yn eu cylch.
Gwnaeth y thema, 'Arch-fygiau, a Sut i'w Hatal' ysbrydoli Gwen, sy'n 12 mlwydd oed o Ysgol Gyfun Pontarddulais.
"Gwelson ni thema'r GIG a chawson ni ein hysbrydoli i ddysgu llawer o bethau newydd," meddai. "Mae gorddefnyddio gwrthfiotigau yn broblem go iawn oherwydd mae'n ychwanegu at ymwrthedd i gyffuriau ac, os yw hyn yn digwydd, fyddwn ni ddim yn gallu gwella ein salwch. Ond dydyn ni ddim am i hynny ddigwydd, felly dyma ein ffordd ni o geisio helpu."
Yn y gystadleuaeth, siaradodd staff Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru â'r unigolion yn y rownd derfynol am TG a swyddi rhaglennu yn y gwasanaeth iechyd.
Gwyliwch Ben, sy'n 10 mlwydd oed
yn siarad am sut y gallai roi ei sgiliau codio ar waith yn y GIG.
|
Anne-Marie Cunningham yn lansio Cynhadledd Aelodau gyntaf y Gyfadran Gwybodeg Glinigol
Yn ddiweddar, agorodd Anne-Marie Cunningham, ein Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Gofal Sylfaenol, y Gynhadledd Flynyddol i Aelodau gyntaf ar gyfer y Gyfadran Gwybodeg Glinigol yn Llundain.
Roedd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau am ddyfodol trawsnewid digidol, yr angen am achredu meddalwedd er mwyn gwella diogelwch cleifion a phwysigrwydd genomeg.
Sefydlwyd y Gyfadran Gwybodeg Glinigol fel corff aelodaeth broffesiynol y DU ar gyfer yr holl wybodegwyr clinigol, gan gynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sydd wedi'u cofrestru â'r Awdurdod Safonau Proffesiynol.
"Roedd awyrgylch ffantastig drwy gydol y digwyddiad," meddai Cunningham, "ac roedd yn gyfle da i ddod ag aelodau ynghyd i siarad am faterion cyffredin, tir cyffredin ac i ddod i adnabod ein gilydd. Diolch i bawb a ddaeth ac i'r holl siaradwyr, cadeiryddion a staff a wnaeth y diwrnod yn bosib."
|
Diwrnod Hacio ar ei ffordd
Mae amser o hyd i gofrestru ar gyfer Diwrnod Hacio'r GIG.
Unwaith eto eleni, mae'r digwyddiad deuddydd, sy'n dod â meddyliau agored ynghyd i greu cynhyrchion arloesol (a chael llawer o hwyl yn y broses) yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd - y tro hwn ar 25 a 26 Ionawr.
Mae Diwrnodau Hacio yn ffordd hwyliog o drafod syniadau ar y cyd a dod o hyd i ddatrysiadau cyflym. Gwahoddir pobl ag ystod eang o sgiliau - nid sgiliau cyfrifiadurol o reidrwydd, dim ond cariad at ofal iechyd a phosibiliadau.
Mynnwch docynnau neu
dysgwch fwy trwy ymweld â
nhshackday.com
.
|
|
Cryfhau Darpariaeth: Helen Thomas, y Cyfarwyddwr Dros Dro, yn 'Edrych tua'r Dyfodol'
Ym mis Medi, cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y bydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn symud o'i strwythur presennol, fel rhan o Ymddiriedolaeth Felindre, i Awdurdod Iechyd Arbennig newydd.
Mae hon yn garreg filltir, ond mae'n newid sy'n adeiladu ar y sylfeini digidol arbennig sydd eisoes ar waith.
O'm rhan i, mae'n fraint cael arwain y sefydliad drwy'r cyfnod pontio. Rwy'n gyffrous wrth feddwl am y dyfodol ac am y cynlluniau i gryfhau'r gwaith o ddarparu gwasanaethau digidol cenedlaethol, sydd o bwysigrwydd gwirioneddol i iechyd a gofal yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch i Andrew Griffiths, sy'n ymddiswyddo o'i waith fel Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ar ddiwedd y mis hwn. Mae wedi cael dylanwad arbennig dros y degawd diwethaf, gan oruchwylio prosiectau cenedlaethol sy'n torri tir newydd, ac mae ei arweinyddiaeth wedi gwneud cyfraniad mawr at ddatblygu iechyd digidol yng Nghymru.
Ar ran y sefydliad cyfan, hoffwn ddymuno pob dymuniad da iddo yng ngham nesaf ei yrfa.
Wrth i 2019 ddirwyn i ben ac wrth i'r flwyddyn newydd brysur agosáu, hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru am eu proffesiynoldeb a'u hymrwymiad parhaus drwy gydol y flwyddyn ac yn ystod cyfnod o newid. Rwy'n gwybod y bydd sawl un yn gweithio'n galed dros wyliau'r Nadolig hefyd, yn darparu cymorth TG i wasanaethau gofal cleifion hanfodol.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch.
|
|
|
|
|
|