Hwb data COVID-19 ar gyfer GIG Cymru 

Lansiwyd hwb data newydd sy'n cadw golwg ar ymateb GIG Cymru i bandemig COVID-19 gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.
 
Bydd yn caniatáu i arweinwyr GIG Cymru a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ddehongli data hanfodol gan bob bwrdd iechyd er mwyn deall y capasiti a'r galw am ofal i gleifion â COVID-19.
 
Mae'r hwb data yn dwyn gwybodaeth ynghyd o lawer o wahanol ffynonellau GIG Cymru, gan ddarparu darlun cywir a llywio penderfyniadau ar staffio ac adnoddau.
 
Mae'r data a ddangosir yn cynnwys apwyntiadau meddygon teulu, capasiti'r Adrannau Achosion Brys, galwadau ffôn i NHS 111, ystadegau ynghylch profion positif ar gyfer COVID-19, nifer a lleoliad gwelyau, a gwelyau sydd â pheiriannau anadlu.
 
Mewn ymateb i sefyllfa sy'n newid, bydd yr hwb data yn cael ei ddatblygu a'i uwchraddio'n gyson.
 
Dywedodd Rebecca Cook, Pennaeth Dylunio Gwybodaeth a Safonau'r Gwasanaeth Gwybodeg: "Dyma wasanaeth newydd a ddatblygwyd yn gyflym i helpu'r frwydr yn erbyn COVID-19. Y nod yw ei gwneud yn haws deall effaith y pandemig hwn ar lefel leol, genedlaethol ac ar lefel y DU.
 
"Cedwir y data i gyd yn ein warws data diogel, gyda'r safonau uchaf o ran diogelu data."
 
Nid oes gwybodaeth iechyd cleifion unigol ar gael yn yr hwb data.
 
Darganfyddwch fwy am yr hwb data yma.
System newydd fydd yn helpu i wella dealltwriaeth o'r cyflyrau sy'n rhoi rhywun mewn perygl uwch o COVID-19

G wnaed nifer o ddatblygiadau i Borth Clinigol Cymru er mwyn cefnogi'r gwaith o brosesu data cleifion yn ystod pandemig COVID-19.
 
Mae ffurflen newydd wedi'i hychwanegu ar Borth Clinigol Cymru er mwyn galluogi clinigwyr i gyflwyno manylion clinigol claf yn ddigidol os yw'n marw oherwydd feirws COVID-19. Gellir cael mynediad at y ffurflen ddigidol, nad yw'n disodli tystysgrif marwolaeth, drwy ddefnyddio manylion mewngofnodi Porth Clinigol Cymru ac mae'n golygu bod clinigwyr yn arbed amser gan na fydd yn rhaid iddynt ffonio Iechyd Cyhoeddus Cymru mwyach. Mae'r data Goruchwylio Marwolaethau, a gesglir yn ddiogel, yn hanfodol er mwyn helpu GIG Cymru i ymdopi yn ystod y pandemig hwn.
 
Mae'r ffurflen hon wedi'i chreu yn sgil cyfarwyddyd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn gwella gwybodaeth ac adrodd dyddiol.

Trawsnewid digidol mewn Gofal Sylfaenol
 
Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn gwneud cynnydd cyflym wrth drawsnewid gwasanaethau digidol i gefnogi meddygon teulu a phractisiau meddyg teulu. Mae Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru ar waith mewn 343 o bractisiau, ac ers ei lansio, cynhaliwyd dros 3,000 o ymgynghoriadau â chleifion.

Dywedodd un claf, "Byddai'n wych pe gallai'r gwasanaeth hwn ar gyfer apwyntiadau nad ydynt yn rhai brys fod ar gael yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn". 

Mae 1,000 o ddefnyddwyr wedi'u cofrestru yng Ngwasanaeth Bwrdd Gwaith o Bell i Feddygon Teulu sy'n cefnogi meddygon teulu a staff allweddol i allu gweithio gartref. Mae e-byst o gartref ar gyfer practisiau meddyg teulu yn wasanaeth hanfodol arall rydym wedi'i alluogi, sy'n rhoi mynediad i feddygon teulu a staff practis i'w negeseuon e-bost GIG wrth symud o gwmpas neu gartref. Ac mae gwasanaeth newydd sy'n cynnig mynediad i feddygon teulu i Borth Clinigol Cymru yn caniatáu iddynt weld gwybodaeth ysbyty cleifion fel crynodebau rhyddhau a llythyrau clinigol, o unrhyw ysbyty yng Nghymru. 

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl wasanaethau hyn, a gwasanaethau digidol newydd eraill ar gael ar ein gwefan
Ffurflen newydd i gefnogi ymgynghoriadau cleifion allanol ar-lein

Lansiwyd ffurflen ddigidol newydd i alluogi GIG Cymru i gynnal lefelau adrodd ar ganlyniadau ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol, wrth weithio o bell. Mae'r Daflen Parhad Cleifion Allanol wedi'i datblygu mewn ymateb i COVID-19 ac mae ar gael i glinigwyr trwy Borth Clinigol Cymru, y cofnod cleifion digidol.

Mae'r ffurflen yn caniatáu i glinigwyr gofnodi canlyniad ymgynghoriadau ac apwyntiadau sy'n digwydd ar-lein. Ar ôl ei mewnbynnu, mae'r wybodaeth hon wedyn yn ffurfio rhan o gofnod meddygol claf yn awtomatig.

Gall yr amrywiol weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â gofal claf gael mynediad at y ffurflen a'i diweddaru ar yr un pryd, sy'n golygu bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei chasglu mewn un lle.

Hyd yn hyn, mae'r Daflen Parhad Cleifion Allanol wedi mynd yn fyw ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae'r daflen parhad cleifion allanol electronig wedi bod yn ddefnyddiol iawn dros yr wythnosau diwethaf. Mae wedi fy ngalluogi i ddogfennu apwyntiadau clinig rhithwir yn gyflym ac yn ddiogel wrth ffonio cleifion y tu allan i'r ysbyty. Dwi ddim yn meddwl y byddaf yn mynd yn ôl i ddefnyddio'r fersiwn bapur ar gyfer clinigau!
Dr Owen Pickrell, Niwrolegydd Ymgynghorol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Cyflwyno Microsoft Teams i GIG Cymru

Bellach mae Microsoft Teams wedi'i gyflwyno ar draws GIG Cymru gyda bron i 16,000 o ddefnyddwyr gweithredol eisoes.
 
Mae Teams yn caniatáu cydweithredu a chydlynu mewn ffordd syml, ddiogel gyda'r un faint o ddiogelwch a chydymffurfiaeth ag Office 365. Gellir cynnal cyfarfodydd ar-lein gan rannu sain, fideo a sgrin o ansawdd uchel.
 
Am adnoddau hyfforddi, canllawiau, cwestiynau cyffredin a mwy,  ewch i'n gwefan .
Canlyniadau gwrthgyrff i'w cipio o'r profion Pwynt Gofal
 
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cefnogi'r gofyniad cynyddol i brofi am wrthgyrff COVID trwy hwyluso canlyniad gwrthgorff pwynt gofal newydd i'w gipio yn electronig trwy systemau meddalwedd cenedlaethol gan gynnwys System Pwynt Gofal Cymru a'r System Labordy Genedlaethol. 

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn rhoi system trosglwyddo canlyniadau'n electronig ar waith er mwyn sicrhau bod y data a gesglir yn hawdd i'w gweld a'u gwerthuso ac y gellir eu defnyddio ar gyfer ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru os oes angen. Ar ôl i'r 100 claf cyntaf gael eu profi gan ddefnyddio'r prawf gwrthgorff Pwynt Gofal newydd, cynhelir gwerthusiad i bennu perfformiad y prawf. Os cymeradwyir y prawf at ddefnydd clinigol, yn dilyn adolygiad, bydd y canlyniadau'n dechrau bod ar gael i glinigwyr eu gweld ym Mhorth Clinigol Cymru. 
 
I ddechrau, treialir y profion yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghaerdydd a'r Fro, ond os cânt eu cymeradwyo, byddant yn cael eu cyflwyno'n gyflym iawn i fyrddau iechyd ledled Cymru.
Delweddau meddygol bellach ar gael i'w gweld ar draws ffiniau byrddau iechyd

Mae diweddariad diweddar i Borth Clinigol Cymru, ochr yn ochr â rhoi meddalwedd gwylio delweddau Fuji Mobility ar waith, yn golygu y gall clinigwyr gofal eilaidd yng Nghymru weld delweddau ar draws ffiniau byrddau iechyd.
 
Bydd clinigwyr yn gallu cyrchu mwy o wybodaeth am gleifion ac yn gynt o lawer, gan ganiatáu diagnosis cyflymach a llai o gostau cludo copïau o ffilm.
Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru 
yn cefnogi gofynion
gwybodaeth ynghylch COVID-19 a'i effaith yn y gymuned


Yn dilyn dechrau'r pandemig coronafeirws, mae grwp gorchwyl a gorffen adrodd cymunedol cenedlaethol newydd wedi'i sefydlu.
 
Diben y grwp hwn yw datblygu a chipio'r gofynion data a gwybodaeth ynghylch coronafeirws ar gyfer gofal a wneir gan wasanaethau cymunedol ac ymateb ar y cyd.
Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r gwaith hwn.
 
Mae'r grwp, sy'n cael ei arwain gan Heidi Morris, Pennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth Gymunedol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac aelod allweddol o System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn cyfarfod yn wythnosol. Mae'n cynnwys staff o fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol ledled Cymru.

Dyma'r prif gyflawniadau hyd yma:
  • datblygu a gweithredu data i nodi'r unigolion a'r cartrefi hynny sy'n hunanynysu oherwydd iddynt gael diagnosis o COVID-19 neu yr amheuir bod ganddynt symptomau ohono.
  • tynnu sylw yn electronig at bobl sy'n agored i niwed o fewn System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) i gynorthwyo gyda darparu pecynnau gofal.
Y camau nesaf nawr yw ymchwilio i ymarferoldeb diweddaru System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru gyda ffrwd electronig ddyddiol o ddata'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ynghylch nifer y bobl sydd wedi marw o coronafeirws. Byddai hyn yn ddefnyddiol ar gyfer rheoli gwasanaethau gofal cymunedol i sicrhau bod gwybodaeth yn gyfredol a bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n briodol.
 
Bydd gwaith hefyd yn parhau i ddatblygu a gweithredu'r gofynion gwybodaeth sy'n dod i'r amlwg ar gyfer gwasanaethau yn y gymuned a amlinellir yn Neddf y Coronafeirws 2020 a basiwyd yn ddiweddar.
 
Mae'r Ddeddf wedi nodi canllawiau i Awdurdodau Lleol i sicrhau'r gofal gorau posibl i'r boblogaeth yn ystod yr amser eithriadol hwn. Bydd newidiadau i ddyletswyddau cynghorau o dan y Ddeddf Gofal yn eu galluogi i flaenoriaethu pobl sydd â'r anghenion gofal mwyaf a gwneud y defnydd gorau o'r gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion. Gallwch ddarllen mwy am y Care Act Easement: Guidance for Local Authorities yma.
 
Mae'r mesurau yn y bil coronafeirws yn rhai dros dro a byddant ar waith cyhyd ag y bo angen i ymateb i'r sefyllfa.