March 2020
Hydref 2020
Datblygwyr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) yn creu cysylltiadau hanfodol yn ap COVID-19 y GIG

Mae datblygwyr o NWIS wedi bod yn rhan o'r tîm sy'n sicrhau bod ap COVID-19 y GIG yn cysylltu â data a systemau sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru i helpu i atal lledaeniad Coronafeirws. Mae llwyddiant y gwaith integreiddio rhwng yr ap a'r systemau labordy yn golygu bod yr ap yn rhedeg yn esmwyth yng Nghymru.
 
Os bydd defnyddiwr ap yn archebu prawf COVID-19 trwy'r ap, mae'r integreiddiad a gwblhawyd gan NWIS wedi sicrhau y bydd y canlyniad yn cael ei ddychwelyd i'r ap ac y bydd yn cael ei ddiweddaru'n awtomatig.  Os byddant yn archebu trwy unrhyw ddull arall, byddant yn derbyn tocyn ochr yn ochr â'r canlyniad SMS y dylid ei fwydo â llaw i'r ap i ddatgloi'r cyngor ynysu COVID-19 diweddaraf. Yng Nghymru, bydd dinasyddion sy'n derbyn canlyniad negatif a phositif yn derbyn tocyn a byddant yn gallu ei fwydo i'r ap.
 
Ar ôl lansio'r ap ar 24fed Medi cafodd ei lawrlwytho dros 12 miliwn o weithiau yn yr wythnos gyntaf. Nodwedd allweddol am yr ap yw ei fod yn nodi cysylltiadau trwy gofnodi faint o amser y mae defnyddiwr yn ei dreulio ar bwys defnyddwyr eraill yr ap, a'r pellter rhyngddynt, felly gall rybuddio'r defnyddiwr os yw rhywun y buont yn agos ato yn profi'n bositif ar gyfer COVID-19 yn ddiweddarach - hyd yn oed os nad ydynt yn adnabod ei gilydd. Bydd yr ap yn cynghori'r defnyddiwr i hunanynysu os yw wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos a gadarnhawyd.
 
Meddai Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Cymru; "Mae lansio ap COVID-19 y GIG yn rhan bwysig o ymateb Cymru i'r Coronafeirws, gan ei fod yn cefnogi rhaglen Prawf, Olrhain, Diogelu GIG Cymru. Po fwyaf o bobl sy'n lawrlwytho ac yn defnyddio'r ap hwn, y mwyaf y bydd yn ein helpu i atal COVID-19 rhag lledaenu." 

Dyluniwyd yr ap gyda phreifatrwydd defnyddwyr mewn golwg, felly mae'n olrhain y feirws, nid pobl, ac mae'n defnyddio'r dechnoleg diogelwch data ddiweddaraf i ddiogelu preifatrwydd. Mae'r system yn cynhyrchu cyfeirnod ar hap ar gyfer dyfais unigolyn, y gellir ei gyfnewid rhwng dyfeisiau trwy Bluetooth. Mae'r cyfeirnodau ar hap unigryw hyn yn ailgynhyrchu'n aml er mwyn ychwanegu haen ychwanegol o ddiogelwch ac i sicrhau eich bod yn ddienw.

Nid yw'r ap yn cadw gwybodaeth bersonol fel enw, cyfeiriad na dyddiad geni, a dim ond hanner cyntaf cod post sydd ei angen arno i sicrhau y gellir rheoli achosion lleol.

Er y bydd yr ap yn gymorth mawr i'r system olrhain cysylltiadau, atgoffir trigolion Cymru i barhau i gadw Cymru yn ddiogel ac i atal COVID-19 rhag lledaenu trwy wneud pob un o'r canlynol:
  • Cadw pellter bob tro
  • Golchi dwylo'n rheolaidd
  • Gweithio gartref pan fo'n bosibl gwneud hynny
  • Dilyn cyfyngiadau lleol
  • Dilyn y rheolau ynghylch cwrdd â phobl
  • Aros gartref os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd estynedig symptomau
Cofnodion Diabetes Digidol yn helpu gofal cleifion yn ystod y pandemig

Mae Nodyn Ymgynghori Diabetes Digidol wedi helpu i ddarparu gofal i gleifion diabetes trwy gydol pandemig COVID-19. Mae'r nodyn yn caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gofnodi a gweld darlleniadau ac arsylwadau, meddyginiaethau a gwybodaeth arall am gleifion. Mae PDF o'r nodyn ar gael ym Mhorth Clinigol Cymru, y gall clinigwyr sy'n defnyddio'r system ledled Cymru ei ddefnyddio.   
 
Dywedodd Dr Phil Evans o Ysbyty Brenhinol Morgannwg: "Yn ystod argyfwng COVID, darparwyd gofal brys i gleifion mewnol gan dimau clinigol ar batrymau sifftiau brys, a olygai fod cyfathrebu'n anodd ar brydiau. Fe wnaeth WISDM (Nodyn Ymgynghori Diabetes) alluogi gwybodaeth yn ymwneud â diabetes, gan gynnwys adolygiadau wardiau cleifion mewnol, i fod ar gael i bob tîm cleifion mewnol, gan gynnwys arbenigwyr gofal dwys, 24 awr y dydd, hyd yn oed os nad oedd y tîm diabetes ar gael."
 
Roedd y nodyn digidol diabetes ar gael o'r blaen yn ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac yn ddiweddar daeth ar gael yn Ysbyty Treforys, Abertawe. 
Adnewyddu gwefannau GIG Cymru

 Mae tua 300 o wefannau ledled GIG Cymru yn cael eu hadnewyddu, ac mae hyn wedi'i bweru gan System Rheoli Cynnwys (CMS) newydd, fodern.
 
Mae Mura, sef y CMS newydd, yn darparu platfform mwy modern, addas at y diben, i alluogi sefydliadau lleol a chenedlaethol i gyfathrebu â rhanddeiliaid yn fwy effeithlon.
 
Er 2018, mae byrddau iechyd, ymddiriedolaethau, cynghorau iechyd cymunedol, a phractisiau meddygon teulu wedi bod yn symud cynnwys gwefannau i Mura o'r hen CMS Cascade, na fydd yn cael ei ddefnyddio mwyach o'r gwanwyn nesaf.

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) yn darparu cefnogaeth dechnegol a hyfforddiant i Mura yn ogystal â chynnal gwefan pob sefydliad yn ganolog. Yn y cyfamser, mae eu cynnwys yn cael ei reoli a'i ddiweddaru gan y sefydliadau lleol eu hunain.

Mae CMS cyffredin yn sicrhau cydymffurfiad dylunio a swyddogaethol â rheoliadau hygyrchedd gwefan Llywodraeth Cymru.

Mae NWIS, yn ogystal ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd, Betsi Cadwaladr, Caerdydd a'r Fro, Aneurin Bevan, Hywel Dda, Powys a Bae Abertawe eisoes yn defnyddio Mura. Mae rhagor o sefydliadau yn eu dilyn.
Sut mae technoleg ddigidol yn paratoi'r ffordd ar gyfer newid mewn fferylliaeth gymunedol yng Nghymru

Wrth i rôl fferylliaeth gymunedol barhau i symud yn fwy amlwg tuag at ddull gofal mwy integredig sy'n canolbwyntio ar y claf, mae Cheryl Way, ein Harweinydd Clinigol ar gyfer fferylliaeth, yn ystyried sut mae technoleg ddigidol yn chwarae rhan bwysig wrth lunio ei dyfodol. Gallwch ddarllen ei herthygl ar ein gwefan.
Digwyddiadau i ddod
  • Bydd Rhidian Hurle, Cyfarwyddwr Meddygol NWIS a Phrif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru yn cymryd rhan yn y Digwyddiad ar gyfer Arweinwyr Digidol eleni a gynhelir ar 14 Hydref. Byddwn yn arddangos sut rydym yn cyfrannu at gyflymu newid digidol yn GIG Cymru yn ystod pandemig Covid-19.  Cofrestrwch nawr i fynychu'r digwyddiad hwn.
     
  • Bydd Helen Thomas ein Cyfarwyddwr yn siarad yn yr Wythnos Gwerth mewn Iechyd a gynhelir gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Fe'i cynhelir o'r 12 - 16 Hydref a bydd sesiynau yn ystod y bore, y prynhawn a chyda'r nos. Gallwch ddod o hyd i'r rhaglen lawn yma.
Pwysigrwydd codio clinigol

Mae adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru wedi tynnu sylw at bwysigrwydd codio clinigol ac yn cael ei anwybyddu yn rhy aml yn GIG Cymru.
 
Dywed yr adroddiad fod codio clinigol yng Nghymru yn parhau i fod â phroffil isel ar lefel bwrdd, a gallai trefniadau gael eu gwella trwy archwilio'n feirniadol lefel y buddsoddiad mewn adnoddau, gwybodaeth ffynhonnell o ansawdd da a thrwy gysylltu staff meddygol â'r broses godio.
 
Mae'r adroddiad yn ychwanegu bod y pandemig cyfredol yn rhoi cyfle go iawn i godi proffil a sicrhau gwelliannau i swyddogaeth sy'n sail i'r data y mae'r GIG yn dibynnu arnynt. Mae'n tynnu sylw at sut mae'r defnydd o blatfformau digidol yn ystod y pandemig wedi cynyddu'r galw "i sicrhau ffyrdd newydd a mwy cynaliadwy o gyflawni gwaith codio."
 
"Mae'r adroddiad gan Archwilio Cymru yn ein hatgoffa'n amserol o raddfa a gwerth y data a ddarperir gan staff codio clinigol ledled Cymru a'r angen i sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen," meddai Richard Burdon, Rheolwr Safonau Dosbarthiadau NWIS. "Mae'r wybodaeth a ddarperir gan staff codio clinigol yn arbennig o bwysig ar hyn o bryd oherwydd gall helpu i ddarparu manylion ar sut mae COVID-19 yn effeithio ar gleifion mewnol yn ysbytai Cymru, yn ogystal â pharhau i ddarparu adnodd gwerthfawr iawn i glinigwyr, dadansoddwyr a phobl eraill sydd â diddordeb mewn tueddiadau mewn gofal iechyd y boblogaeth."