Hydref 2019
abstract-mouse.jpg
Sefydliad digidol newydd i GIG Cymru 
 
Mae Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi cynlluniau i drawsnewid iechyd a gofal digidol yng Nghymru. Mae'r cynlluniau'n cynnwys creu swydd Prif Swyddog Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal a chorff newydd o fewn GIG Cymru i ddarparu gwasanaethau digidol cenedlaethol, gyda chymorth £50m o gyllid newydd.
 
Bydd y Prif Swyddog Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal yn diffinio'r safonau cenedlaethol ar gyfer meddalwedd a gwasanaethau digidol, fel rhan o'r gwaith o symud tuag at strwythur digidol ar draws yr holl systemau digidol.  Bydd y Prif Swyddog Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ei strategaeth ddigidol, yn arwain y proffesiwn digidol, a bydd yn eiriolwr ar gyfer iechyd a gofal digidol yng Nghymru.
 
Bydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn newid i fod yn gorff newydd ar ben ei hun o fewn GIG Cymru, gan adlewyrchu pwysigrwydd y maes digidol a data mewn iechyd a gofal yn yr oes fodern.  Bydd y corff newydd yn Awdurdod Iechyd Arbennig, yn yr un modd ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a sefydlwyd yn ddiweddar.  Bydd ganddo gadeirydd a bwrdd annibynnol, a benodir gan Weinidogion Cymru.
 
Mae Cymru Iachach, cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal, yn nodi bod datblygu gwasanaethau digidol yn allweddol er mwyn darparu gwasanaethau sy'n addas at y dyfodol.  Yn ogystal â chryfhau arweinyddiaeth a threfniadau cyflawni, mae Cymru Iachach yn ymrwymo i gynyddu'r buddsoddiad yn y maes digidol yn sylweddol.  Bydd cronfa fuddsoddi, a fydd yn werth £50m, yn cael ei sefydlu er mwyn buddsoddi mewn blaenoriaethau digidol ar sail pum thema: 
  •         Trawsnewid gwasanaethau digidol ar gyfer cleifion a'r cyhoedd
  •         Trawsnewid gwasanaethau digidol ar gyfer gweithwyr proffesiynol
  •         Buddsoddi mewn data a gwybodaeth ddeallus
  •         Moderneiddio dyfeisiau a symud at wasanaethau cwmwl
  •         Seiberddiogelwch a chadernid 
Mae'r Gweinidog Iechyd hefyd wedi comisiynu pedwar adolygiad strategol o iechyd a gofal digidol yng Nghymru, a fydd yn arwain at gyhoeddi Cynllun Seilwaith Digidol ar gyfer Cymru Gyfan, Cynllun Gweithlu Digidol, Strategaeth Fasnachol a Strategaeth Gyfathrebu
y flwyddyn nesaf.

"Rwy'n benderfynol y byddwn yn cynnal cyflymder y gwaith o drawsnewid, fel ein bod yn defnyddio technolegau newydd i roi budd i'r cyhoedd ac i gleifion yng Nghymru, a gwneud ein gwasanaethau iechyd a gofal yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething

I ddarllen y cyhoeddiad llawn, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Deunydd hyrwyddo Fy Iechyd Ar-lein ar gael
 
Mae adnoddau ar gyfer practisiau meddygon teulu i hyrwyddo'r gwasanaeth archebu ar-lein - Fy Iechyd Ar-lein - ar gael i'w lawrlwytho nawr trwy wefan Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.
 
Mae'r adnoddau yn cynnwys taflenni, posteri a baneri. Gall practisiau meddygon teulu hefyd lawrlwytho'r adnoddau - yn ogystal â sleidiau i ystafelloedd aros - o wefan Gwasanaethau Gofal Sylfaenol (Rhwydwaith y GIG yn unig).
 
Mae cleifion yng Nghymru yn defnyddio Fy Iechyd Ar-lein i drefnu apwyntiadau gyda'u meddygon teulu ac i archebu presgripsiynau amlroddadwy. Mae apwyntiadau clinig ar gael ar-lein mewn rhai practisiau, ac maent yn cynnig mynediad i'w cleifion i rannau o'u cofnod meddyg teulu, gan gynnwys meddyginiaethau, alergeddau ac imiwneiddiadau.  
Myfyrwyr yn canmol graddau digidol
  
Mae myfyrwyr sydd ar fin cychwyn ail flwyddyn graddau sy'n cael eu rhedeg gan Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru wedi sôn am ba mor ddefnyddiol mae'r cwrs wedi bod iddynt.
 
Dywedodd Jess Marfell, myfyrwraig ar ei hail flwyddyn: "Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi dysgu sgiliau rwyf wedi'u defnyddio yn fy rôl, ac rwyf wedi llwyddo i wneud cynnydd yn y sefydliad. "Mae'r cwrs wedi rhoi'r hyder a'r wybodaeth dechnegol i fi i'w defnyddio yn fy ngyrfa broffesiynol."
 
Mae naw o'r myfyrwyr sydd ar ail flwyddyn y graddau rhan amser yn gweithio i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae pob un ohonynt yn cwblhau cyrsiau naill ai mewn Systemau Data a Gwybodaeth; Systemau Busnes a Gwybodaeth; Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch neu Beirianneg Meddalwedd.
 
Mae Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru yn bartneriaeth rhwng Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sy'n cefnogi datblygiad gweithlu digidol ar gyfer gwybodeg iechyd. 
 
Mae'r graddau wedi'u hachredu gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain, sy'n rhoi statws Gweithiwr TG Proffesiynol Siartredig (CITP). Yn ogystal, enillodd y rhaglenni peirianneg meddalwedd statws Peiriannydd Siartredig (CEng) rhannol. 
  
Dywedodd yr Athro Wendy Dearing, Pennaeth y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: "Mae'r bartneriaeth yn datblygu'n broses organig sydd â buddion newydd yn dod i'r amlwg yn wythnosol. "Mae dosbarthiadau meistr wedi'u darparu gan staff Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru i fyfyrwyr a phrentisiaid gradd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ac yn gyfnewid mae academyddion y brifysgol wedi darparu rhaglenni datblygu byr a phenodol i staff Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru.
Technoleg a phobl yn dod at ei gilydd yng Nghysylltathon Caerdydd 
  
Yn gynharach y mis hwn, cynhaliodd Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru a NHS Digital 'Cysylltathon' dros ddau ddiwrnod yn Stadiwm Dinas Caerdydd. 
 
Darparodd y Cysylltathon, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn, arweiniad a gwybodaeth i'r rhai sy'n rheoli a defnyddio systemau cod cymhleth megis SNOMED CT, yn ogystal â systemau cod iechyd a gofal cymdeithasol eraill. Mae'r gynhadledd yn tynnu sylw at y ffyrdd gorau o rannu a defnyddio'r termau a'r codau a ddefnyddir i gynrychioli data gofal.
 
Dywedodd nifer o'r cyflwynwyr a'r rhai oedd yn bresennol fod y digwyddiad yn addysgiadol ac yn ddefnyddiol iawn. Dywedodd Rebecca Cook, Pennaeth Safonau Gwybodaeth, pa mor falch oedd hi gyda'r nifer oedd yn bresennol a bod Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wrth ei fodd yn cynnal y Cysylltathon "mwyaf eto".
 
Roedd cynrychiolwyr o asiantaeth ymchwil gwyddoniaeth genedlaethol Awstralia a Sefydliad Ymchwil Gwyddonol a Diwydiannol y Gymanwlad (CSIRO) hefyd yn bresennol. Dywedodd Pennaeth Ymchwil Gwybodeg Iechyd CSIRO, Michael Lawley, a siaradodd yn y digwyddiad, ei fod wedi'i "syfrdanu a'i gyffroi gan lefel brwdfrydedd ac ymgysylltiad y rhai oedd yn bresennol." 
Ap symudol Porthol Clinigol Cymru ar restr fer gwobr genedlaethol
 
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ar restr fer Gwobr Entrepreneur Digidol ar gyfer arloesedd yn y sector cyhoeddus am yr ap symudol Porthol Clinigol Cymru.
 
Y Gwobrau Entrepreneur Digidol, sydd yn cael eu cynnal yn Llundain ar 21 Tachwedd, yw'r unig wobrau cenedlaethol sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo entrepreneuriaeth ddigidol ac arloesedd ledled y DU.
 
Mae datblygiad yr ap symudol yn golygu bod clinigwyr ledled Cymru yn gallu cael mynediad i wybodaeth am eu cleifion o Borthol Clinigol Cymru wrth eu gwaith ac wrth erchwyn gwely o ddyfais symudol.  Mae'n caniatáu hysbysiadau gwthio penodol i gleifion ac yn galluogi staff clinigol i gael mynediad hefyd at ddata ar ddiagnosis, lleoliadau a gweithgarwch arfaethedig cleifion.
 
Dywedodd Griff Williams, rheolwr Porthol Clinigol Cymru: "Mae'r wobr hon yn cydnabod ymdrechion sylweddol ein timau datblygu, cydweithwyr rhwydwaith mewnol a diogelwch, clinigwyr sy'n cyfrannu a'r rheolwr prosiect. "Gweithiodd unigolion penodol o bob rhan o'r sefydliad ar y cyd tuag at y nod cyffredin o fynd â'r cynnyrch arloesol hwn o fod yn gysyniad trwy ymchwil a datblygu, esblygu, profi a gweithredu - trwy siopau apiau sydd ar gael yn rhyngwladol.  Mae'r ap yn chwyldroadol yn y modd mae'n caniatáu i glinigwyr gael mynediad at ddata cofnodion iechyd Cymru."
Hwb i geisiadau am brofion electronig gan feddygon teulu

Mae mwy o bractisiau meddygon teulu bellach yn dewis defnyddio ceisiadau am brofion electronig ers cyhoeddi'r ap ceisiadau am brofion 'GPTR'
 
Mae perfformiad a chyflymder cael mynediad i'r ap a'i ddefnyddio wedi gwella'n fawr - gyda phractisiau bellach yn gallu cael mynediad uniongyrchol i'r system.  
 
Mae practisiau sy'n defnyddio systemau EMIS yn gallu cysylltu â'r GPTR yn uniongyrchol drwy'r eicon Draig, ac mae'n ymddangos yng nghwymplen y practisiau sy'n defnyddio Vision.  
 
Gyda miloedd o brofion gwaed yn cael eu cymryd bob wythnos yng Nghymru, mae GPTR yn helpu i brosesu canlyniadau yn gynt. Gwnaed ceisiadau am brofion ar bapur gan fwyaf tan yn ddiweddar, ond nawr mae staff yn gallu prosesu'r ceisiadau a chael y canlyniadau yn ddigidol. Aneurin Bevan yw'r bwrdd iechyd sydd wedi perfformio orau ar gyfer y system eleni, gyda 52 o bractisiau yno'n defnyddio'r cymhwysiad llawn.
 
Dywedodd Gaynor Pick, Rheolwr Practis Canolfan Iechyd Underwood, Casnewydd: "Mae pawb yn y practis yn falch iawn ein bod wedi newid a fydden ni ddim eisiau bod hebddo nawr." 
Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Andrew Griffiths, yn rhoi'r gorau i'w rôl

Mae Andrew Griffiths am roi'r gorau i'w rôl fel Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Phrif Swyddog Gwybodaeth ddiwedd mis Rhagfyr. 
 
Mae Andrew wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo datblygiad digidol ar gyfer GIG Cymru. Roedd yn aelod o'r gweithgor wnaeth oruchwylio cyflwyno'r strategaeth wreiddiol 'Hysbysu Gofal Iechyd'. Ymunodd â'r Rhaglen Hysbysu Gofal Iechyd yn 2004 ac yna yn y blynyddoedd olaf fel prif gyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.
 
Bydd Helen Thomas, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth NWIS presennol, yn ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, hyd nes y bydd rhywun i gymryd lle Andrew yn barhaol wedi'i recriwtio a'i benodi.
Cyflwyno Podlediad Gofal Iechyd Digidol Cymru
 
Ymunwch â ni pan fyddwn yn siarad â'r rhai sy'n ddylanwadol ym maes gwybodeg iechyd a TG Gofal Iechyd yn ein Podlediad Gofal Iechyd Digidol Cymru.
 
Mae'r podlediadau yn gydweithrediad rhwng Tîm Cyfathrebu Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru. Mae modd gwrando, lawrlwytho a rhannu ein dau bodlediad cyntaf yn walesinformatics.podbean.com
 
Mae trawsgrifiadau o'n holl bodlediadau ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar ein gwefan
Tynnu sylw at TG ar gyfer fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru
 
Mae PublicTechnology, un o brif ffynonellau newyddion sy'n torri a dadansoddiadau ar gyfer gweithwyr digidol, data a TG proffesiynol ledled y sector cyhoeddus, wedi ysgrifennu am ein gwaith i drawsnewid trin mân afiechydon trwy alluogi fferyllfeydd cymunedol i gael mynediad at gofnodion gofal iechyd digidol. 
 
Mae'r erthygl: "How Digital Records are Changing NHS Care in Wales" yn canolbwyntio ar ein peilot Gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf sydd newydd ei gwblhau, sy'n caniatáu i fferyllfeydd cymunedol drin nifer o gleifion yn uniongyrchol yn hytrach nag aros am apwyntiad meddyg teulu.
 
Darllenwch yr erthygl ar wefan PublicTechnology.net.