March 2020
Gorffennaf 2020
Profi, Olrhain, Diogelu - Olrhain Cysylltiadau Digidol

Os oes unigolyn yn cael ei brofi'n bositif ar gyfer COVID-19 bydd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru yn cysylltu â fe/hi dros y ffôn. Gofynnir i'r unigolyn ble mae wedi bod yn ddiweddar ac am unrhyw un y mae wedi bod mewn cysylltiad agos â fe/hi, pa symptomau oedd ganddo/ganddi a'r dyddiad y dechreuodd y symptomau. 

Er mwyn symleiddio'r broses, mae'r system olrhain contractau digidol newydd, sy'n seiliedig ar gronfa ddata Rheoli Perthynas Cwsmeriaid soffistigedig, yn caniatáu i bobl sydd wedi cael prawf positif ar gyfer COVID-19 nodi manylion cysylltiadau agos ar ffurflen we. 

Yna bydd y gwasanaeth olrhain yn cysylltu â chysylltiadau agos a gofynnir iddynt hunanynysu am 14 diwrnod rhag ofn, er mwyn atal y feirws rhag lledaenu ymhellach. 

Yn ystod y cyfnod hunanynysu, rheolir monitro cysylltiadau agos bob dydd trwy'r system olrhain cysylltiadau. Yn dibynnu ar ddewis yr unigolyn, gellir monitro trwy neges destun neu alwad bersonol gan gynghorydd. Bydd gwasanaethau monitro e-bost a ffôn awtomataidd yn cael eu cyflwyno cyn bo hir i ehangu'r opsiynau monitro. 

Mae'r holl wybodaeth yn cael ei bwydo'n ôl yn uniongyrchol i'r system olrhain cysylltiadau ac mae rhybuddion yn cael eu nodi ar gyfer pobl nad ydyn nhw'n teimlo'n dda. 

Mae'r system newydd hanfodol hon yn ganlyniad i ddatblygiad cyflym dan arweiniad Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, gan weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, saith bwrdd iechyd a 22 awdurdod lleol. 

Meddai Helen Thomas, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: "Roedd hwn yn ddarn rhyfeddol o waith gan bawb a gymerodd ran, a gyflawnwyd mewn amserlenni byr iawn - 40 diwrnod o'r dechrau i'r diwedd. Bellach mae gennym y sylfaen dechnoleg sydd ei hangen ar gyfer ymateb cenedlaethol cadarn a all gael ei gynyddu neu ei leihau er mwyn olrhain cysylltiadau." 
Sut mae olrhain cysylltiadau'n gweithio? 

Mae rhagor o wybodaeth am olrhain contractau a sut mae'n gweithio ar gael  yma.
Gall unrhyw un sydd â symptomau'r feirws wneud cais am pecyn profi gartref neu mae'n bosibl gwneud apwyntiad mewn canolfan profi drwy ffenest y car, naill ai trwy ffonio 119 neu drwy ofyn am  brawf ar-lein.


Gwasanaeth digidol newydd yn cefnogi fferyllfeydd lleol i ragnodi

O fis Mehefin 2020, bydd modiwl newydd o'r ap Dewis Fferylliaeth, y Gwasanaeth Rhagnodwyr Annibynnol (IPS), yn cefnogi fferyllwyr cymunedol sydd wedi cymhwyso fel rhagnodwyr anfeddygol i roi cyngor a thriniaeth effeithiol i gleifion sydd â chyflyrau penodol.
 
Mae'n rhan o'r platfform digidol Dewis Fferylliaeth sy'n ehangu, a ddatblygwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, sy'n cynnwys gwasanaethau megis atal cenhedlu brys, gwasanaeth i drin anhwylderau cyffredin ac adolygiad o feddyginiaethau wrth ryddhau.
 
Bydd darparu'r gwasanaeth hwn, trwy'r gwasanaeth digidol Dewis Fferylliaeth, yn galluogi fferyllwyr i gofnodi'r ymgynghoriad, creu crynodeb meddyg teulu a/neu lythyrau atgyfeirio a chreu hanes y claf, sy'n symud gyda'r claf os yw'n newid fferyllfeydd. Er mwyn llywio penderfyniadau, bydd fferyllwyr sydd wedi cymhwyso fel rhagnodwyr anfeddygol yn cael mynediad at Gofnod Meddyg Teulu Cymru digidol y claf. Mae hyn yn cynnwys crynodeb o wybodaeth bwysig, fel meddyginiaeth gyfredol, profion diweddar ac alergeddau.
 
Bwriad y gwasanaeth yw darparu mynediad amserol at gyngor i gleifion a lleihau'r galw am ymgynghoriadau gyda meddygon teulu sy'n ymwneud â chyflyrau perthnasol a phenodedig. Mae fferyllfeydd cymunedol yn un o'r darparwyr rheng flaen allweddol y gall pobl fynd atynt os oes angen gofal brys arnynt, gan leihau'r pwysau ar feddygon teulu ac adrannau damweiniau ac achosion brys.
 
Dywedodd Emma Williams, Arweinydd Clinigol Dewis Fferylliaeth, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: "Mae'r Gwasanaeth Rhagnodwyr Annibynnol yn cefnogi model gofal 'fferylliaeth gymunedol yn gyntaf'. Mae hyn yn golygu y bydd gan gleifion fwy o fynediad at gyngor a thriniaeth ar yr adeg iawn, yn y lle iawn, gan leihau'r pwysau ar feddygon teulu i gynnig ymgynghoriadau am gyflyrau y gellir eu rheoli'n briodol trwy fferyllfeydd cymunedol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn ystod yr argyfwng gofal iechyd presennol gan fod sicrhau bod mwy o fynediad ac opsiynau ar gyfer gofal cleifion yn bwysicach nag erioed."
 
Yn dilyn cyhoeddiad diweddar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ystod o fesurau i wella mynediad at offer digidol ar gyfer Fferyllfeydd Cymunedol yng Nghymru, gwnaeth Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Cymru, sylwadau ar y modiwl newydd,
 
"Mae rhyddhau'r modiwl hwn yn gam sylweddol tuag at ein huchelgais i alluogi llawer mwy o fferyllwyr mewn fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru i ddarparu gwasanaethau clinigol mewn ffordd sy'n defnyddio eu harbenigedd orau ac sydd wedi'i integreiddio o ddifrif â gweddill gofal sylfaenol."
 
Bydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cynnal gwerthusiad braenaru tua diwedd eleni, a fydd yn llywio argymhellion ar gyflwyno'n genedlaethol.

Mae gan feddygon teulu fynediad at Borth Clinigol Cymru

Rhoddwyd mynediad at Borth Clinigol Cymru i feddygon teulu ledled Cymru, fel y gallant weld gwybodaeth bwysig o bob ysbyty yng Nghymru.
 
Gallant weld crynodebau rhyddhau, canlyniadau profion ar ffurf graff, llythyrau clinig, cofnod crynodeb y meddyg teulu a llawer o nodweddion eraill. Mae'n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer darparu gwybodaeth am gleifion newydd mewn practis, lle mae'n bosibl na fydd cofnod meddyg teulu llawn ar gael, a lle nad yw cleifion wedi'u cofrestru mewn practis.
 
Yn ogystal â gallu pori trwy nodweddion Porth Clinigol Cymru, gall meddyg teulu roi arwydd ar gofnod claf i nodi lle mae trafodaeth Cynllun Gofal Uwch wedi digwydd. Mae hyn yn ddefnyddiol oherwydd gall fod yn ysgogiad i glinigwr ysbyty gael sgwrs gyda chlaf neu ofalwr am y cynllun. 
 
Meddygon Teulu yn Gwerthfawrogi Microsoft Teams
 
Mae nodweddion Microsoft Teams wedi'u galluogi ar gyfer yr holl bractisiau meddygon teulu. Mae'r nodweddion 'Chat', 'Calendar' a 'Calls' ar gael i bawb, yn dilyn cwblhau prosiect peilot gyda nifer fach o bractisiau meddygon teulu a safleoedd clwstwr.  Mae un o'r meddygon teulu a oedd yn rhan o'r peilot yn credu bod yr offeryn yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig ar gyfer gwaith clwstwr, "Gallwn anfon negeseuon a ffonio'n gilydd yn hawdd" esboniodd Dr Simon Braybrook, sy'n gweithio ym Mhractis Meddygol Butetown yng Nghaerdydd.
 
Mae gan y practis dinesig tua 10,000 o gleifion ac mae'n rhan o glwstwr y Ddinas a'r De. Yn ogystal, mae Dr Braybrook wedi defnyddio nodweddion Teams gyda chydweithwyr yn ei bractis, a dywedodd fod hyn yn ddefnyddiol pan fo angen cadw pellter cymdeithasol. Meddai, "Os oes rhywun mewn ystafell arall eisiau i mi edrych ar rywbeth, fel brech, gall ddefnyddio Teams. Gall glicio ar alwad gen i, galla i ateb yr alwad, a gall y ddau ohonom ddefnyddio ein camerâu i gysylltu â'n gilydd."
 
Mae gwaith pellach ar y gweill i dreialu rhagor o nodweddion Teams - fel y swyddogaethau cydweithredu - a byddant ar gael i'r holl bractisiau maes o law.

Manteision Microsoft Teams i feddygon teulu: cyfweliad gyda Dr Simon Braybrook
Manteision Microsoft Teams i feddygon teulu: cyfweliad gyda Dr Simon Braybrook
Sesiwn holi ac ateb gyda phrentis Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI), Ethan Needham

Mae ein prentisiaid WIDI wedi chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi g
waith Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) yn ystod pandemig COVID-19. 

Cawson ni sgwrs ag Ethan Needham a ddechreuodd fel prentis NWIS tua diwedd 2019. Dywedodd wrthym am sut mae wedi bod yn rhan o'r gwaith hanfodol o alluogi staff i gael mynediad o bell i rwydwaith y GIG yn ddiogel, a'r hyder ychwanegol y mae wedi'i fagu ynddo'i hun o ganlyniad i hynny. Cymerwch gip.