Mae'r cymhwysiad Dewis Fferyllfa ar gael mewn 98% o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru i gefnogi fferyllwyr achrededig i ddarparu gwasanaethau clinigol gwell.
Dechreuodd y cymhwysiad drwy gynnig un modiwl ar gyfer Anhwylderau Cyffredin ac mae bellach yn cynnwys chwe gwasanaeth.
Mae'r Gwasanaeth Brechu Ffliw Tymhorol yn cefnogi'r ymdrech genedlaethol i frechu rhag y ffliw tymhorol drwy gynnig lleoliad ychwanegol i gleifion gael eu brechiadau ffliw. Mae dros 160,000 o frechiadau ffliw wedi cael eu cofnodi’r tymor hwn, o'u cymharu â 92,500 y llynedd a 64,000 yn ystod 2019/2020.
Gyda chaniatâd y claf, gall y fferyllydd gyfeirio at Gofnod Meddyg Teulu Cymru i wirio gwybodaeth am feddyginiaeth neu alergeddau a thrwy hynny wella diogelwch cleifion. Mae meddyg teulu y claf yn derbyn cofnod electronig o'r ymgynghoriad a'r brechlyn a ddefnyddiwyd.
Mae llawer o gleifion yn ei chael hi’n gyfleus iawn cael mynediad at wasanaethau clinigol yn eu fferyllfeydd. Mae fferyllfa ar bron bob stryd fawr, mae fferyllfeydd ar agor gyda'r nos ac mae llawer ohonynt yn cynnig apwyntiadau galw i mewn.