System frechu ddigidol yn galluogi effeithlonrwydd a chyflymder i staff GIG Cymru
Rhoddwyd clod uchel gan amrywiaeth o staff y GIG ledled Cymru i’r system gweinyddu brechu genedlaethol sy’n darparu’r brechlyn COVID-19.
Mae Cymru yn arwain y DU ac mae 68.4% o’n poblogaeth wedi’i brechu’n llwyr a phawb sy’n 16 a 17 oed yn cael cynnig eu brechlyn cyntaf.
Rhoddwyd System Imiwneiddio Cymru (WIS) ar waith ledled holl fyrddau iechyd Cymru ac mae’n system wybodaeth ar gyfer rheoli, dosbarthu ac adrodd Rhaglen Brechu COVID-19.
Defnyddir WIS gan staff gofal iechyd ledled GIG Cymru, o nyrsys gofal dwys, hylenwyr deintyddol a bydwragedd, i’r sawl nad ydynt o gefndir clinigol sy’n cynnal elfen weinyddol o roi’r gwasanaeth ar waith.
Cynlluniwyd y system gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) – sefydliad GIG Cymru sy’n gyfrifol am wasanaethau NHS Digital, ac fe’i rhoddwyd ar waith yn gyflym wrth i dimau newid busnes Iechyd a Gofal Digidol Cymru hyfforddi defnyddwyr mewn canolfannau brechu.
Mae defnyddwyr wedi dweud ei bod yn gyflym ac yn hawdd ei defnyddio ac mae taliadau ar gyfer y brechlynnau wedi’u cynnwys yn uniongyrchol yn y feddalwedd. Yn ogystal, mae’n caniatáu i unrhyw anghysondeb taliad gael ei gywiro o fewn y feddalwedd, gan arbed amser ac atal gwallau i staff gweinyddol.
Mae timau gwybodaeth yn DHCW wedi adnabod carfanau a chreu dangosfyrddau perthnasol a hysbysodd eu cydweithwyr yn y GIG. Mae’r data a gasglwyd yn WIS ar gael i fyrddau iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru o’n canolfan ddata.
Gellir archebu ail frechlyn yn awtomatig yn y system.Mae hyn yn arbed rhagor o amser a phrosesau gweinyddol i staff y GIG ar lawr gwlad.
Mae Dawn, sy’n rhoi brechiadau yng nghanolfan brechu torfol y Bontnewydd yn defnyddio WIS yn ddyddiol. Dywedodd:
“Rwy’n gweld WIS yn hawdd iawn ei defnyddio. A chyda fy nghefndir fel Ymarferydd Iechyd y Geg a fy oedran, rwy’n ei chael yn hawdd iawn dygymod â hi gan nad ydw i’n hoff iawn o dechnoleg. Mae’r cyfan sydd ei angen arnaf yma i’m helpu. Rwyf yn cael fy atgoffa o ba fanylion sydd angen eu nodi ac rwyf wedi addasu’n dda iawn iddi”.
Mae Hayley Gayle, nyrs sy’n rhoi brechiadau yng nghanolfan brechu torfol Raven’s Court ym Mhen-y-bont yn credu mai WIS yw un o’r rhesymau y mae rhaglen frechu Cymru wedi bod mor llwyddiannus,
“Byddai fy swydd i lawer yn anoddach heb WIS. Mae wedi arbed llawer o amser ac ymdrech i mi. Rydyn ni’n gallu dod o hyd i holl fanylion cleifion yn y fan a’r lle. Mae hyn yn golygu nad ydyn ni’n gwrthod cleifion os nad ydy eu manylion gyda nhw neu os nad yw’r manylion cywir ganddyn nhw.
Heb WIS, byddem yn gwrthod pobl, felly mae wedi gwneud fy swydd yn llawer mwy effeithlon ac rwy’n amau mai dyna pam bod Cymru’n arwain y ffordd erbyn hyn yn y rhaglen frechu”
Nid yw’n bosibl i glinig brechu ddechrau diwrnod heb fewnbynnu data penodol i WIS. Mae Lois Lloyd, Fferyllydd Arweiniol ar gyfer dosbarthu brechlynnau COVID-19 yn esbonio pa mor hanfodol yw’r nodwedd hon yn WIS. Dywedodd:
Ni ddylai clinig brechu ddechrau bob dydd heb wiriad llywodraethu hanfodol a mewnbynnu data fferyllol penodol i WIS. Mae Lois Lloyd, Fferyllydd Arweiniol ar gyfer dosbarthu brechlynnau COVID-19 yn esbonio pa mor hanfodol yw’r nodwedd hon yn WIS. Dywedodd,
“Mae clinig brechu yn dechrau bob diwrnod trwy gofnodi tymheredd yr oergell yn y ganolfan - sy’n cael ei nodi ddwywaith y dydd a gellir tynnu sylw ato os nad yw'r tymheredd o fewn ystod tymheredd cyson. Mae hyn yn golygu bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod y brechlynnau yn cael eu storio a'u monitro'n gyson ar yr ystod tymheredd gorau posibl a bod brechlynnau o ansawdd uchel yn cael eu dosbarthu i bobl Cymru.
“Pan ddanfonir swp o frechlynnau i safle brechu, mewnbynnir y manylion i WIS, yna mae'r wybodaeth hon yn rhan o un storfa ddata ar gyfer Cymru. Dim ond i'w safle brechu penodol y mae gan frechwyr a staff gweinyddol fynediad iddo, ac mae llai o siawns y bydd gwall wrth fewnbynnu rhif y swp gan eu bod yn cael eu mewnbynnu ymlaen llaw i WIS fel y'u pennwyd gan y tîm fferyllol canolog. Mae hyn yn golygu bod llai o wallau wrth i staff fewnbynnu data a bod modd i ni weld cadwyn gyflenwi’r brechlyn o’r dechrau i’r diwedd yng Nghymru. Mae hyn hefyd yn ei gwneud hi'n hawdd iawn i gadw gwyliadwriaeth ffarmacolegol, sy'n cynnwys adrodd am sgîl-effeithiau posibl y rhai sy'n derbyn y brechlyn, gan fod y swp penodol o frechlyn a roddir yn cael ei gofnodi ar lefel cleifion unigol.
“Mae rheolaeth, amlygrwydd a chanoli data WIS wrth gyflwyno’r brechlynnau wedi bod yn allweddol i lwyddiant y rhaglen flaenllaw y mae Cymru’n ei chyflwyno ar hyn o bryd ac mae hyn wedi bod yn allweddol wrth leihau gwastraff o’r brechlyn.”
Mae gwaith ar y system yn mynd yn ei flaen ac mae’n cael ei diweddaru’n gyson er mwyn adlewyrchu anghenion a cheisiadau defnyddwyr, canllawiau’r llywodraeth a pharatoi parhaus at y dyfodol sy’n sicrhau bod cleifion GIG Cymru yn cael y gofal gorau posibl i wella eu hiechyd.