Hydref 2021
Cleifion yng Nghymru i gael budd o system LIMS
Cyhoeddir system labordy newydd heddiw ar gyfer GIG Cymru.

Bydd y Gwasanaeth System Rheoli Gwybodaeth Labordy (LIMS) newydd yn rheoli dros 35 miliwn o brofion a brosesir gan yr 21 o labordai patholeg GIG Cymru bob blwyddyn.

Caiff y Gwasanaeth LIMS newydd ei ddefnyddio ar draws GIG Cymru yng Ngwyddorau Gwaed, Patholeg Celloedd a Chorffdy, Microbioleg a Seitoleg Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig.

Dewiswyd Citadel Health fel y cyflenwr TG a ffafrir ar gyfer contract £15.9 miliwn er mwyn cyflenwi ei feddalwedd Evolution vLab am saith mlynedd gyda’r dewis o ymestyn y contract am ddwy flynedd bellach. Mae’r contract yn cynnwys LIMS yn ogystal ag amrywiaeth o systemau a gwasanaethau sy’n cynnwys Haemonetics Blood Track a Nuance Dragon One Digital Dictation.

Mae dyfarnu’r contract yn dilyn proses gaffael drylwyr a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar ran ac mewn partneriaeth a Rhaglen Rhwydwaith Gwybodaeth Labordy Cymru (LINC) gan Gydweithrediad Iechyd GIG Cymru.

Bydd LIMS yn cefnogi pob bwrdd iechyd, ysbyty a phractis meddyg teulu yng Nghymru a bydd yn cael ei ymgorffori i systemau iechyd TG iechyd craidd GIG Cymru. Caiff ei ariannu ar y cyd gan y saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru a Chyllid Trawsnewid Digidol gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o fuddsoddiad ehangach i raglenni newid strategol mawr.

Ymhlith y manteision allweddol mae cwblhau profion ynghynt, lleihau nifer y profion y mae angen eu hailadrodd, gwell diogelwch clinigol trwy geisiadau prawf electronig a sicrhau y gall y gwasanaeth ymdopi a’r galw uwch.

"Mae’n gyfnod cyffrous i’r gwasanaeth patholeg," dywedodd Judith Bates, Cyfarwyddwr Rhaglen LINC. "Mae LINC yn edrych ymlaen at weithio gyda’r cyflenwr newydd, mewn partneriaeth ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru a gwasanaethau patholeg GIG Cymru, er mwyn sicrhau y caiff LIMS newydd ei ddatblygu i fodloni gofynion GIG Cymru ac y caiff ei ar waith yn ddiogel ar draws holl labordai a gwasanaethau patholeg.

“Mae hyn wedi bod yn gaffaeliad llwyddiannus iawn gan gynnwys llawer iawn o ymgysylltiad ac ymdrech gan staff ar draws nifer o sefydliadau," ychwanegodd Kevin Williams, Arbenigwr Arwain Pynciau Patholeg. "Oherwydd COVID-19 rydym wedi dysgu i weithio o bell mewn ffordd gwbl wahanol gan wneud y defnydd gorau o dechnoleg i hwyluso’r gwaith dan sylw, sy’n cynnwys cyflwyniadau gan gyflenwyr, trafodaethau â chyflenwyr ac ymweliadau rhithiol â safleoedd ym mhedwar ban byd.”

Bydd y system yn dechrau cael ei ddefnyddio yn 2023 a bydd yn disodli’r system LIMS presennol a gyflenwir gan InterSystems ac a gyflwynwyd yn 2013.
Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn llwyddo yng Ngwobrau Cenedlaethol y DU

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi ennill dyfarniad mawreddog Gwobr ar gyfer Ymateb Eithriadol i COVID-19 ar gyfer Sefydliadau'r GIG yng Ngwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth eleni.

Mae’r wobr yn cydnabod y gwaith eithriadol a gyflawnwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ddarparu’r Datrysiad Olrhain CysylltiadauProfi Olrhain Diogelu, a ddefnyddir gan staff Awdurdodau Lleol i gysylltu â phobl sy’n cael canlyniad Prawf Covid-19 positif.

Wedi’i gyhoeddi fel enghraifft nodedig o gaffael arloesol, roedd yn cynnwys proses prototeip cyflym a chydweithio’n agos â chyflenwyr i greu modelau trwyddedu a oedd yn adlewyrchu cwmpas a chynllun y datrysiad. Roedd y dull yn darparu gwerth eithriadol o fewn amserlen gywasgedig wrth fodloni gofynion deddfwriaeth gaffael.

Mae Gwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth (GO) Rhagoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus wedi bod yn dathlu’r agweddau gorau oll ym maes caffael cyhoeddus er 2003.

Roedd tîm Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cystadlu yn erbyn maes cryf ac fe gafodd 15 o sefydliadau eraill y GIG eu henwebu, gan gynnwys Cadwyn Gyflenwi GIG ac NHS National Services Scotland.

Mae’r fuddugoliaeth genedlaethol ar lefel y DU yn dilyn llwyddiant yng Ngwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth Cymru 2020/2021 pan fachodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru Wobr Ymateb Rhagorol i COVID-19 a Gwobrau Rhagoriaeth Cyfleoedd y Llywodraeth.

“Rydym wrth ein boddau i ennill y wobr hon ac mae’n gydnabyddiaeth ffantastig o’r gwaith rydym wedi’i wneud i gefnogi ymateb GIG Cymru i COVID-19," dywedodd Julie Francis, sy’n arwain Tîm Gwasanaethau Masnachol Iechyd a Gofal Digidol Cymru. "Mae hwn yn anrhydedd i bawb fu’n rhan o’r broses hon ac mae’n cydnabod pwysigrwydd ein systemau digidol.”
Systemau digidol yn ‘ganolog’ wrth ddarparu rhaglen frechu flaenllaw Cymru
 
Mae ffigwr blaenllaw o raglen frechu COVID-19 Cymru wedi disgrifio sut mae mynediad at y gwasanaethau digidol a ddarperir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi bod yn allweddol i’w roi ar waith yn llwyddiannus.

Defnyddir y gwasanaeth brechu digidol sy'n cefnogi'r rhaglen, System Imiwneiddio Cymru (WIS) ledled y wlad ar gyfer rheoli, dosbarthu ac adrodd ar y brechiadau COVID-19.

Fe’i cefnogir gan wybodaeth o hwb data COVID-19, sy’n rhan o’r Warws Data Cenedlaethol a reolir gan Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Gwybodaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Dywedodd Jeremy Griffith, Prif Swyddog Gweithredol Rhaglen Frechu Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) COVID-19 GIG Cymru a Chyfarwyddwr Uned Gyflawni GIG Cymru, fod defnyddio'r hwb data COVID-19 a WIS wedi helpu ei dîm i wneud penderfyniadau mwy gwybodus, ledled y wlad trwy gydol y pandemig. Mae'r system yn defnyddio gwybodaeth am ddemograffeg cleifion, grwpiau galwedigaeth a lefelau blaenoriaeth y cytunwyd arnynt ar gyfer derbyn y brechlyn, i ganiatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol drefnu apwyntiadau ar gyfer cleifion. Gall greu slotiau apwyntiad a chofnodi manylion am bob brechiad ar gyfer pob brechlyn COVID-19 a weinyddir yng Nghymru.

Mae Griffith yn gweithredu fel rhyngwyneb GIG Cymru â Llywodraeth Cymru ar gyfer Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) a'r rhaglen frechu. Mae ei dîm yn defnyddio gwybodaeth o'r hwb, sy'n arddangos cymysgedd o ddelweddiadau data, tablau a ffynonellau, o storfa ddata COVID-19 i gefnogi rheolaeth lledaeniad COVID-19.

Mae'r hwb hefyd yn darparu data brechu gan bob bwrdd iechyd, i roi darlun clir o bwy sydd wedi cael eu brechu, ble a phryd, ynghyd â’r nifer o bobl sydd ag apwyntiad wedi’u archebu ar hyn o bryd i gael eu brechu. Gellir dadansoddi'r data yn gyffredinol, neu’n fwy benodol megis safleoedd brechu penodol a chleifion unigol.

“Roeddem angen rhywfaint o ddata da, cadarn, cyfoes a oedd yn seiliedig ar frechlynnau'n cael eu cofnodi. Ystyriais yr elfen dangosfwrdd o’r rhain, a oedd yn caniatáu imi a fy nhîm droi gwybodaeth dangosfwrdd yn wybodaeth reoli. Er mwyn i mi allu briffio gweinidogion, roeddwn i angen yr wybodaeth reoli honno bob amser ar flaenau fy mysedd i gefnogi Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau allweddol ar gyfer y gymdeithas. Felly mae wedi bod yn hanfodol. ”

“Dim ond ar ôl i Gymru ddechrau cael rhywfaint o gydnabyddiaeth am y ffordd yr oeddem yn cyflwyno’r rhaglen o'n sefyllfa gyda'r dos cyntaf a'r ail [ddos], y gwnaeth gwledydd eraill o bob cwr o’r byd ymddiddori; yn enwedig ein cydweithwyr yn y DU yn yr Alban, yn ogystal ag eraill fel Awstralia a'r Almaen," ychwanegodd Griffith. "Roedd ganddyn nhw ddiddordeb yn y ffordd roedden ni'n gwybod ein sefyllfa gyda’r brechlyn, sut roedden ni'n cymryd stoc a'r holl lywodraethu ansawdd o amgylch rheoli brechlyn a oedd gennym ar flaenau ein bysedd. " 
 
Cafodd staff Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy'n cefnogi'r systemau a'u defnyddwyr hefyd eu canmol a'u disgrifio fel rhai sy'n "ffocysu ar atebion" ac yn gwneud eu gwaith mewn modd "proffesiynol a charedig" wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb yn llawn.

Crynhodd Griffith ei feddyliau trwy ddweud, “mae System Imiwneiddio Cymru (WIS) yn nifer o bethau sydd wedi dod ynghyd mewn un pecyn yr ydym i gyd yn ei ddefnyddio ledled Cymru, ac mae wedi bod yn ganolog wrth ddarparu [y rhaglen frechu]. Mae'n caniatáu inni rifo a rhoi tystiolaeth i naratif ac felly rhoi mwy o hyder i'r cyhoedd ”.

Mae gwaith y System Imiwneiddio Cymru yn parhau wrth inni symud i raglenni brechiad atgyfnerthu COVID-19 a brechu rhag y ffliw ar gyfer tymor yr hydref a’r gaeaf.
WICIS yn camu’n nes at ‘Fynd yn Fyw’ 

Mae bwrlwm newydd o weithgarwch ynghylch y System Gwybodaeth Gofal Dwys Cymru (WICIS) sydd ar ddod.
 
Ym mis Medi, gosodwyd yr offer sydd eu hangen i ddod â’r system WICIS yn uniongyrchol i unedau gofal dwys Cymru. Mae Canolfan Ddata Casnewydd wedi derbyn y gweinyddwyr ffisegol a fydd yn caniatáu i ddata o amrywiaeth o systemau sy’n bodoli eisoes megis Porth Clinigol Cymru, integreiddio â’r cymhwysiad WICIS. Mae'r drych ganolfan ddata “diogelu rhag methu” ym Mhentre'r Eglwys hefyd wedi'i chyfarparu. Mae cynlluniau bellach ar y gweill i osod cydrannau allweddol WICIS ar y safle mewn ysbytai ledled Cymru. Yr ysbyty ag Uned Gofal Dwys cyntaf i ‘fynd yn fyw’ fydd Ysbyty Athrofaol y Faenol, ger Cwmbran yn ystod haf 2022.
 
Bydd WICIS yn trawsnewid gofal critigol trwy gael gwared ar gymryd nodiadau ar bapur wrth erchwyn y gwely ac awtomeiddio casglu data yn uniongyrchol o'r monitorau a'r dyfeisiau soffistigedig a ddefnyddir i gefnogi cleifion â salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd. Gyda phwysau cynyddol ar wasanaethau gofal dwys, bydd lleihau'r baich gweinyddol ar staff GIG Cymru yn rhyddhau mwy o amser ar gyfer gofal cleifion.
Hoffech chi wybod rhagor? Yn ein podlediad Iechyd a Gofal Digidol Cymru diweddaraf, mae Geraint Walker - Nyrs Gofal Critigol a Swyddog Gwybodeg Glinigol ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Lucy Morgan - Deietegydd Gofal Critigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn esbonio WICIS a sut y bydd o fudd i staff gofal iechyd unedau gofal dwys a'u cleifion.
 
Mae trawsgrifiadau o'r podlediad hwn ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg
A hoffech chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau 3.1 miliwn o bobl?

Rydym yn chwilio am weithwyr proffesiynol uchelgeisiol iawn i ymuno â’n tîm newydd. 

Rolau wedi’u lletya gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Rydym yn falch o fod wedi ennill y wobr ‘Y lle gorau i weithio ym maes TG’ yng Ngwobrau Diwydiant TG Cymdeithas Gyfrifiadura Prydain 2020.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael trafodaeth anffurfiol am y rhaglen a’r bobl yr hoffem eu recriwtio, anfonwch e-bost atom (yn cadarnhau pa swydd y mae gennych ddiddordeb ynddi) trwy [email protected].