Neidio i'r prif gynnwy

Trefn Cyfarfodydd WISB

 

Cynhelir cyfarfodydd WISB yn y prynhawn ar y trydydd dydd Iau bob mis.

Mae Aelodaeth WISB yn cynnwys cynrychiolaeth o sefydliadau amrywiol. Mae hyn yn cynnwys Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru eraill. Lle bo modd, mae gennym ddirprwyon sy'n gallu mynychu yn absenoldeb aelodau'r bwrdd.  

Gwahoddir Noddwyr a Datblygwyr yn gynnes i fynychu cyfarfodydd WISB. Byddant yn cael cyfle i ddarparu unrhyw drosolwg a deunydd cefndir ychwanegol sy'n gysylltiedig â'u cyflwyniad cyn dechrau'r drafodaeth fanwl gydag aelodau WISB. Mae eu hymgysylltiad hefyd yn debygol o gyflymu ystyriaeth WISB o'u cyflwyniad. 

Ar ôl cwblhau arfarniadau unigol, mae aelodau WISB yn cytuno ar y penderfyniad ffurfiol. Bydd hyn yn cael ei fynegi i'r Noddwyr cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfarfod:

1.     Cymeradwywyd:  Mae’r cyflwyniad wedi’i gymeradwyo’n ffurfiol gan WISB. 

2.     Cymeradwywyd yn amodol:  Mae WISB wedi gohirio cymeradwyo nes bod amodau penodol yn cael eu bodloni. Cyfyngedig o Ran Amser. (Defnyddir hwn bob amser pan fydd Cynnig Terfynol wedi'i gymeradwyo a'r cam sy'n weddill yw cynhyrchu a chymeradwyo Hysbysiad Newid Set Ddata yn derfynol) 

3.     Cymeradwywyd gyda Chafeat:  Rhoddwyd cymeradwyaeth yn y cam Terfynol ond mae gan WISB bryderon o hyd ynghylch ansawdd a disgwyliadau'r cynigion 

4.     Derbyniwyd ar gyfer Symud i'r Cam Nesaf:  Mae WISB yn derbyn y dylai gwaith prosiect barhau cyn ei gyflwyno yn y cam nesaf 

5.     Heb ei Gymeradwyo ond Gwahoddwyd i Ailgyflwyno:  Mae WISB yn gwahodd ailgyflwyno ar yr un cam ar ôl mynd i'r afael â materion penodol 

6.     Heb ei Gymeradwyo ond wedi’i Argymell:  Cred WISB fod y cyflwyniad yn deilwng, ond ni all fynd ymlaen yn absenoldeb cyfarwyddeb polisi gan Lywodraeth Cymru 

 

Ar ôl y cyfarfod, caiff y cofnodion eu teipio a'u defnyddio fel sail ar gyfer cynhyrchu Canlyniad WISB. Mae hyn yn dogfennu'r prif sylwadau a godwyd gan WISB, unrhyw gamau y mae'n gofyn i’r cyflwynydd eu cymryd a'i benderfyniad.  Cwblheir y canlyniad drafft yng nghyfarfod WISB y mis canlynol. Os gofynnir yn benodol amdano, fel rheol gall yr ysgrifennydd ddarparu adborth anffurfiol ar y Canlyniad wythnos neu ddwy cyn cyfarfod nesaf WISB. Anfonir y Canlyniad Terfynol at y Noddwr yn fuan ar ôl y cyfarfod WISB hwn. 

Cyhoeddir manylion llawn y cyflwyniadau a'u canlyniadau yng Cofnod Cyflwyniadau Sicrwydd Safonau Gwybodaeth

 

Sylwch mai dim ond yn Saesneg y gallwch lawrlwytho’r dogfennau hyn.