Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp datblygu gwybodaeth Cymru (WIDG)

 

Sefydlwyd Grŵp Datblygu Gwybodaeth Cymru (WIDG) (a elwid gynt yn Is-grŵp DSCN) i gefnogi gwaith WISB mewn perthynas â chynhyrchu DSCNs, gan:

  • Ddatblygu proses drwyadl, amserol ar gyfer asesu gofynion data/gwybodaeth ar y Gwasanaeth fel sy’n ofynnol yn y cam DSCN. 

  • Sicrhau bod newidiadau i’r Geiriadur Data yn cael eu nodi a'u cynnwys yn gynhwysfawr. 

  • Argymell gwelliannau i fformat a chynnwys DSCN, pan fo hynny’n briodol. 

  • Adolygu rôl DSCN ac ystyried yr angen am hysbysiadau eraill. 

  • Cyfrifoldeb dirprwyedig am gymeradwyo DSCNs (yn llawn). 

  • Adolygu newidiadau arfaethedig i strwythur a chynnwys y Geiriadur Data. 

Bydd cwmpas WIDG yn cynnwys pob DSCN sy'n deillio o gyflwyniadau sy’n mynd trwy unrhyw ran o’r Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth. Bydd yn eithrio cyfrifoldeb am newidiadau sylfaenol i'r Geiriadur Data er y byddai awgrymiadau sy'n deillio o waith y grŵp yn cael eu casglu. 

Ar ôl WIDG ddod i benderfyniad ar DSCN, bydd hyn yn cael ei adrodd i WISB i'w gadarnhau neu ei ail-ystyried. Os nad WIDG wedi gallu dod i gytundeb, bydd hyn yn cael ei adrodd i WISB. 

I adolygu DSCNs a gymeradwywyd gweler Hysbysiadau Newid Safonau Data. Hefyd, gallwch weld rhestr gryno o DSCNs sy'n cael eu drafftio ar hyn o bryd.