Neidio i'r prif gynnwy

OPCS-4

 

Mae Dosbarthiad Ymyriadau a Thriniaethau OPCS fersiwn 4 (OPCS-4) yn cael ei greu a'i gynnal gan y Gwasanaeth Dosbarthiadau Clinigol, rhan o NHS England.

 

Mae OPCS-4 yn ddosbarthiad a ddefnyddir gan godwyr clinigol yn y UK i droi gweithrediadau, triniaethau ac ymyriadau a gyflawnir yn ystod cyfnodau o ofal iechyd yn godau alffaniwmerig sy'n caniatáu storio, cyrchu a dadansoddi'r data yn hawdd. Mae llawer o weithrediadau cymhleth yn gofyn am aseinio sawl cod mewn cyfuniad penodol i ddisgrifio’r triniaethau a gyflawnwyd yn llawn. Cafodd OPCS-4 ei fandadu i'w ddefnyddio yng Nghymru gyntaf yn 1987. Ers hynny, mae wedi'i ddiweddaru (gweler isod).


Hanes Diweddaru:

  • 2023: OPCS-4.10 - Bwriedir ei weithredu yng Nghymru yn effeithiol o 1 Ebrill 2023.

  • 2020: OPCS-4.9 - Fe'i gweithredwyd yng Nghymru o 1 Ebrill 2020 ymlaen.

  • 2017: OPCS-4.8 - Fe'i gweithredwyd yng Nghymru o Ebrill 2017 ymlaen.

  • 2014: OPCS-4.7 - Fe'i gweithredwyd yng Nghymru o Ebrill 2014 ymlaen.

  • 2011: OPCS-4.6 - Fe'i gweithredwyd yng Nghymru o Ebrill 2011 ymlaen.

  • 2009: OPCS-4.5 - Fe'i gweithredwyd yng Nghymru o Ebrill 2009 ymlaen.

  • 2007: OPCS-4.4 - Fe'i gweithredwyd yng Nghymru o Hydref 2007 ymlaen.

  • 2006: OPCS-4.3 - Fe'i gweithredwyd yng Nghymru o Ebrill 2006 ymlaen.

  • 1987: OPCS-4.2 - Fe'i gweithredwyd yng Nghymru o Ebrill 1987 ymlaen.

Gwybodaeth Atodol:

Prif gorff OPCS-4 yw Rhestr Dablau dwy gyfrol a Mynegai Ymyriadau a Thriniaethau yn nhrefn yr wyddor. Ategir y rhain gan ddwy gofrestr sy'n cael eu diweddaru bob blwyddyn - y Trefnau Cemotherapi a Rhestrau Cyffuriau Cost Uchel, ac mae’r ddwy ar gael gan TRUD, gwefan Technology Reference Data Update Distribution NHS England.



Gall codwyr clinigol, neu ddefnyddwyr data OPCS-4 sydd wedi'u codio'n glinigol, ofyn am newidiadau i ddosbarthiad OPCS-4 (e.e. gofyn am god ar gyfer triniaeth neu lawdriniaeth glinigol newydd). Dylid anfon ceisiadau o'r fath ymlaen at NHS England trwy ei wefan Porth Cyflwyno Ceisiadau.