Neidio i'r prif gynnwy

Safonau a Chanllawiau Codio Clinigol Cymru

 

Mae data o ansawdd uchel yn dibynnu ar ddefnyddio safonau data y cytunwyd arnynt i sicrhau ein bod i gyd yn “siarad yr un iaith”. Mae defnyddio ICD-10, 5ed argraffiad, ac OPCS-4 yn cael ei arwain ar lefel y UK gan NHS England. Mae NHS England yn cynhyrchu arweiniad mewn nifer o ffurfiau sy'n berthnasol yng Nghymru, gan gynnwys:

 

  • Mae Llyfrau Cyfeirio Safonau Codio Clinigol Cenedlaethol ar gyfer ICD-10 ac OPCS-4, sydd ar gael trwy wefan NHS England Technology Reference data Update Distribution (TRUD). Mae'r rhain yn cynnwys y safonau data cyfredol ar gyfer cymhwyso codau dosbarthu i gyfnodau gofal cleifion a dderbynnir.

  • Y Clinig Codio, cofnod electronig sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd sy'n cynnwys safonau a chanllawiau cenedlaethol codio clinigol cyfredol, gwallau, arferion codio gorau, theori addysgol a thechnegol, ac enghreifftiau ymarferol o godio clinigol.

  • Deunyddiau hyfforddi a ddefnyddir ar gyrsiau a drefnir ac a ddarperir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC). Darperir y rhain gan NHS England, ac fe'u haddysgir gan hyfforddwyr cymeradwy i adlewyrchu safonau gwybodaeth cyfredol.

  • Ymatebion i'r Gwasanaeth Dosbarthiadau Clinigol.

 

Mae rhagor o wybodaeth am safonau gwybodaeth a chanllawiau NHS England ar ei wefan. Yn ogystal â’r safonau uchod yn y UK, mae canllawiau a safonau Codio Clinigol Cymru yn bodoli ar gyfer dosbarthiadau ICD-10 ac OPCS-4, i adlewyrchu gofynion penodol y gwasanaeth Cymreig. Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) sy'n creu ac yn cynnal y safonau hyn. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

 

Safonau Codio Clinigol Cymru
Mae Safonau Codio Clinigol yn nodi pa wybodaeth y mae'n rhaid ei chasglu, a sut y dylid ei chofnodi. Cyflwynwyd Hysbysiadau Newid Codio Clinigol yn 2009 ac fe'u defnyddir i gyfleu safon newydd neu safon sydd wedi cael ei newid i'r gwasanaeth. Mae Hysbysiadau Newid Codio Clinigol yn cael eu cymeradwyo gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru ac maent yn cael eu cyhoeddi gan Dîm Dosbarthiadau Clinigol Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC). 

 

Canllawiau Codio Clinigol Cymru
Defnyddir Cyfathrebu Codio Clinigol i egluro'r safonau codio clinigol presennol, ac i ddarparu arweiniad ar sut y dylid eu cymhwyso. Mae Cyfathrebu Codio Clinigol yn cael ei gymeradwyo gan Grŵp Cynghori Codio Clinigol Pennaeth Safonau Gwybodaeth Llywodraeth Cymru (CCAG), ac mae’n yn cael ei gyhoeddi gan Dîm Dosbarthiadau Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC). 

 

Polisïau Lleol
Pan fydd materion clinigol neu ddogfennaeth tymor hir neu reolaidd yn effeithio ar y gwaith o asesu cod yn gywir i gynrychioli gweithdrefn neu ddiagnosis, gellir datblygu polisi lleol i roi eglurder. Ni fwriedir i bolisïau lleol ddisodli Safonau Cymru na Safonau’r UK, ac o'r herwydd, ni allant fynd yn groes i ofynion casglu data sy'n bodoli eisoes. Mae'r broses ar gyfer datblygu a chynnal Polisïau Lleol yn amrywio yn ôl sefydliad, ond fe'u cymeradwyir gan Dîm Dosbarthiadau Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC).

 

Geiriadur Data GIG Cymru
Mae'r safonau sy'n rheoli'r defnydd o ddata Dosbarthiadau yn cael eu cynnal gan y setiau data y cânt eu casglu ynddynt, ac mae'r diffiniadau wedi'u nodi yng Ngeiriadur Data GIG Cymru. Mae Hysbysiadau Newidiadau i Setiau Data (DSCN) a Hysbysiadau Newidiadau i Eiriadur Data (DDCN) yn cael eu cymeradwyo gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru ac mae Tîm Safonau Data IGDC yn eu cyhoeddi. Gellir gweld manylion y diffiniadau cyfredol yng Ngeiriadur Data GIG Cymru; gellir gweld manylion ynghylch sut mae diffiniadau ar lefel y UK yn rhyngweithio ag adrodd data yng Nghymru at ddibenion codio yn WCG14: Dehongli Diffiniadau Data NHS England at Ddibenion Codio Dosbarthiad Clinigol.