Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Archwilio Codio Clinigol

 

Nod cyffredinol rhaglen archwilio codio clinigol genedlaethol Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yw asesu a chefnogi'r gwelliant mewn cywirdeb codio clinigol ar draws GIG Cymru. Mae'n ofynnol i adrannau Codio Cymru fodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyflawnrwydd, prydlondeb a chywirdeb data wedi'u codio fel yr amlinellir yn Fframwaith Cyflenwi GIG Cymru.

 

Sefydlwyd y rhaglen ar ôl cwblhau archwiliad cychwynnol Cymru gyfan o gywirdeb codio clinigol a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Swyddfa Archwilio Cymru yn 2013/14. Mae'r rhaglen yn bwriadu nodi meysydd i'w gwella neu feysydd nad ydynt wedi gwella yn dilyn yr argymhellion a roddwyd yn yr archwiliadau hynny ac archwiliadau dilynol.

 

Mae'r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu gan Dîm Dosbarthiadau Clinigol IGDC a bydd yn sicrhau rhaglen barhaus o archwilio cywirdeb codio clinigol ar draws holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru.

 

Cyhoeddir adroddiadau unigol ym mhob bwrdd iechyd, gan amlinellu canfyddiadau ac argymhellion archwiliad Tîm Dosbarthiadau Clinigol IGDC o gywirdeb codio clinigol.

 

Nodau ac Amcanion

Nod y rhaglen archwilio yw asesu cywirdeb y data wedi'u codio'n glinigol y mae byrddau iechyd unigol yn eu creu trwy gymharu'r codau a neilltuwyd gan yr adran codio clinigol yn erbyn safonau codio clinigol cenedlaethol.

 

Mae pob archwiliad yn arwain at adroddiad sy'n ceisio darparu meincnod y gall yr adran codio clinigol ei ddefnyddio i nodi meysydd i'w gwella yn y sefydliad a chynorthwyo i nodi a chynllunio anghenion hyfforddi yn y dyfodol. Darperir casgliadau ac argymhellion yn seiliedig ar feysydd arferion da ac arferion gwael a ddarganfuwyd i gyflawni hyn.

 

Nod yr adroddiad archwilio hefyd yw gwerthuso ansawdd ffynhonnell y ddogfennaeth y mae codwyr yn ei defnyddio a'r polisïau a'r triniaethau lleol a ddefnyddir ym mhob sefydliad.

 

Amcanion y rhaglen archwilio yw:

  • Asesu'r data codio clinigol yn erbyn safonau codio clinigol cenedlaethol;

  • Nodi ac adrodd ar feysydd arferion da ac arferion gwael;

  • Adolygu ac asesu cywirdeb ffynhonnell a ddogfennaeth a ddefnyddir ar gyfer codio clinigol;

  • Asesu lefel y cysylltiad clinigol â'r adran godio ac i ba raddau mae hyn yn effeithio ar y broses godio ac ar gywirdeb codio;

  • Gwneud argymhellion sydd â'r nod o gefnogi gwelliannau yng nghywirdeb data sydd wedi'u codio'n glinigol ar gyfer y dyfodol, a hynny yn y bwrdd iechyd neu'r ymddiriedolaeth;

  • Tynnu sylw at faterion hyfforddi yn yr adran.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen hyfforddi, cyfeiriwch nhw a Rachael Bruce neu Leanne Cook Arweinwyr y Rhaglen Hyfforddi Codio Clinigol Genedlaethol, trwy'r ddesg gymorth codio clinigol: clinical.coding@wales.nhs.uk.