Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Data a Therminoleg Cyfeirio Cymru (WRTS)

 

Mae Gwasanaeth Data Cyfeirio a Therminoleg Cymru yn cynnal data cyfeirio ar ran GIG Cymru. Mae'r cynnwys ei hun yn cael ei gynnal gan y tîm yn y Gyfarwyddiaeth Strategaeth Ddigidol Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC).

 

Mae’r gwasanaeth yn cynnal a dosbarthu Cyfundrefn Enwi Systematig ar gyfer termau Clinigol mewn Meddygaeth (SNOMED CT) ac yn cyflenwi systemau cod sy’n cydymffurfio â FHIR (lle y bo’n berthnasol), setiau gwerth a mapiau cysyniad i systemau clinigol ledled GIG Cymru mewn modd diogel, cydnerth a chyson.

 

Mae'n darparu ystorfa ganolog ar gyfer data cyfeirio, sydd ar gael mewn gwahanol ffurfiau ac mae’n sicrhau bod data cyfeirio ar gael yn ôl y galw, trwy amrywiaeth o ffyrdd.  Defnyddir y data cyfeirio hyn at amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys dilysu, deillio gwerthoedd newydd, cyflenwi codau a gydnabyddir yn genedlaethol mewn systemau TG clinigol a labelu allbynnau at ddibenion adrodd.  Defnyddir y data cyfeirio hyn at ddibenion defnydd Sylfaenol (h.y. gofal cleifion uniongyrchol) a defnydd eilaidd.

 

Mae’r Tîm Data Cyfeirio yng IGDC yn cefnogi’r gwaith o gynnal codau cenedlaethol Cymru a ddefnyddir ledled y Deyrnas Unedig yn systemau’r GIG.

 

Mae’r Tîm yn gyfrifol am bob un o’r canlynol:

  • Cynnal a dosbarthu cod Cyfundrefn Enwi Systematig ar gyfer Termau Clinigol mewn Meddygaeth (SNOMED CT)

  • Cynnal holl godau safle sefydliadau Cymru; 

  • Darparu ystorfa ganolog ar gyfer codau cenedlaethol; 

  • Darparu'r data cyfeirio i gefnogi Gwasanaeth Cyfnewid Data GIG Cymru a chronfeydd data Cenedlaethol; 

  • Cynnal y Codau SNOMED CT a data cyfeirio ar gyfer systemau cenedlaethol Cymru a ddefnyddir yn y Byrddau Iechyd; 

  • Cynnal systemau Cod Cymru a setiau gwerth

  • Datblygu safonau cenedlaethol ochr yn ochr â'r Tîm Safonau Data cenedlaethol sy'n ymwneud â mathau newydd o ddata cyfeirio; 

  • Darparu llinell gymorth i ateb pob ymholiad, cais am newidiadau

  • Rhoi arweiniad ar ddefnyddio SNOMED CT a data cyfeirio.

 

Pan rennir gwybodaeth glinigol rhwng sefydliadau, mae systemau cyfrifiadurol yn defnyddio codau i sicrhau bod triniaethau, sefydliadau a lleoliadau ysbytai yn cael eu disgrifio yn yr un ffordd bob amser. Rydym yn rhoi cefnogaeth i'r setiau data a ddefnyddir gan y gwahanol strwythurau codio trwy ein gwasanaeth data cyfeirio.

 

Ar gyfer pob ymholiad, cysylltwch â Gwasanaeth Data Cyfeirio a Therminoleg Cymru gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod:

 

E-bost: 

SNOMED-CT SNOMED@wales.nhs.uk

Data Cyfeirio: dhcw.referencedatateam@wales.nhs.uk

Pwynt Gwasanaeth: nationalreferencedata@wales.nhs.uk

 

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Tŷ Glan-yr-Afon, 

21 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen 

Caerdydd 

CF11 9AD