Neidio i'r prif gynnwy

Rhyngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau, Safonau a Therminoleg

 

Yr allwedd i ddatblygiad yr Adnodd Data Cenedlaethol fydd datblygu platfform Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau agored, dylunio gwybodaeth, safonau a gwasanaethau terminoleg. Bydd y gwasanaethau hyn yn galluogi llif data mwy effeithlon a chyson o amgylch ein systemau a'n cronfeydd data ac yn ei gwneud hi’n haws defnyddio data.

 

 

 

Mae'r tîm Ecosystem Iechyd Digidol yn gweithio i alluogi cydweithredu rhwng y GIG a sefydliadau cyhoeddus a phreifat eraill trwy gatalogio Rhyngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau sy'n hygyrch drwy’r rhyngrwyd. Yn y pen draw, bydd hyn yn arwain at y canlynol:

  • Porth Datblygwyr

  • Rheoli Rhyngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau

  • Amgylchedd Sandbox

Mae FHIR (Fast Healthcare Interoperability Resources) yn Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau gofal iechyd sy’n rhyngweithredol ac yn hyblyg. Gellir defnyddio’r ddolen UK Core i gyrchu safonau FHIR diweddaraf y DU. Mae safonau Cymreig lleol hefyd yn bodoli i gyfrif am amrywiad rhanbarthol. Dylai'r Hwb Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau Rhwydwaith Datblygwyr Iechyd allu cynorthwyo i greu systemau sydd wedi'u galluogi gan FHIR.

 

Gofynion o ran Mynediad

Pan fydd Sandbox Environment Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn mynd yn fyw, bydd angen mynediad penodol. Ar gyfer hyn, dylech gysylltu ag Eugene O'Sullivan (Eugene.O'Sullivan@wales.nhs.uk)