Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth

Rôl tîm Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw rhoi mecanwaith i fyrddau iechyd weithredu Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth yn eu sefydliad eu hunain.  I ddechrau, mae hyn yn cael ei gyflawni trwy ddylunio cyfres o ddangosfyrddau ar wahanol feysydd clinigol, sy'n dwyn ynghyd data o ystod eang o ffynonellau data. Gallwch gael mynediad i’r dangosfyrddau yma isod:

Diben y rhaglen Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth yw gwella canlyniadau iechyd pobl yng Nghymru, mewn ffordd sy'n gynaliadwy yn ariannol ac sy'n rhoi gwerth mawr ar ofalu am y claf.  Gellir cyflawni hyn trwy greu system sy'n cael ei gyrru gan ddata, gan gynnwys mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion, gan ddarparu gwybodaeth amserol i ddinasyddion, timau clinigol a sefydliadau sy’n gwneud penderfyniadau fel ei gilydd. Bydd hyn yn helpu i nodi triniaethau sydd o'r gwerth mwyaf posibl i gleifion.

 

Gofynion o ran Mynediad

Mae dau fath o fynediad y gall defnyddwyr ofyn amdano i’r dangosfyrddau Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth Cenedlaethol - mynediad nad yw’n defnyddio gwybodaeth bersonol adnabyddadwy a mynediad gan ddefnyddio gwybodaeth bersonol adnabyddadwy.  Mynediad nad yw’n defnyddio gwybodaeth bersonol adnabyddadwy fydd y rhan fwyaf o achosion a bydd mynediad gan ddefnyddio gwybodaeth bersonol adnabyddadwy yn galluogi gweld data ar lefel cleifion yn unig ar gyfer eich bwrdd iechyd eich hun.  Mae'r math o fynediad sy'n ofynnol yn pennu'r weithdrefn ar gyfer gofyn am fynediad;

Data nad yw’n cynnwys Gwybodaeth Bersonol Adnabyddadwy  

Dylai’r defnyddiwr gysylltu ag aelod o’r tîm Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth cenedlaethol.  Byddant yn anfon y cais drwy e-bost at Ddefnyddwyr Gweinyddol y dangosfwrdd yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (y bobl yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru sy’n gallu rhoi mynediad i’r dangosfyrddau).  Gweler isod am restr o’r Defnyddwyr Gweinyddol presennol yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.

Data Gwybodaeth Bersonol Adnabyddadwy

Dylai’r defnyddiwr ofyn am fynediad gan Bennaeth Gwybodaeth neu Gyfarwyddwr lleol, a fydd yn adolygu a chymeradwyo/gwrthod y cais fel y bo'n berthnasol.Yna anfonir ceisiadau cymeradwy at Ddefnyddwyr Gweinyddol y dangosfwrdd yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, sy'n gallu caniatáu mynediad (gweler isod).

Newidiadau i Hawliau Mynediad

Dylai Penaethiaid Gwybodaeth/Cyfarwyddwyr o bob bwrdd iechyd roi gwybod i Ddefnyddwyr Gweinyddol yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (gweler isod) am unrhyw newidiadau i hawliau mynediad sy’n ofynnol.

Y Defnyddwyr Gweinyddol presennol yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru sy'n gallu caniatáu mynediad i ddangosfyrddau yw:

Keith Howkins (keith.howkins@wales.nhs.uk)

Simon Moss (simon.moss@wales.nhs.uk)