Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Chamddefnyddio Sylweddau

Mae mynd i'r afael â phroblemau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae'n fater cymhleth sy'n cynnwys ystod eang o wasanaethau gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr, statudol ac anstatudol. Mae enghraifft wych o weithio ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a Darparwyr Gwasanaethau Triniaeth ledled Cymru wedi galluogi gwneud cynnydd yn y maes hwn trwy sefydlu Cronfa Ddata Camddefnyddio Sylweddau Cymru gyfan.

Mae data cadarn yn hanfodol i helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol a'n helpu ni i gyd i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am gynllunio a blaenoriaethu gwasanaethau triniaeth. Mae system casglu data Cymru Gyfan yn gam allweddol yn natblygiad system gwybodaeth reoli a fydd yn darparu gwybodaeth strategol a gweithredol ar natur a graddau camddefnyddio sylweddau ledled Cymru ac effeithiolrwydd gwahanol wasanaethau triniaeth.

Sefydlwyd Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau ar 1 Ebrill 2005 gan ddefnyddio set ddata gyffredin a diffiniadau data safonol a weithredwyd o ganlyniad i Lywodraeth Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn gweithio'n agos gyda Darparwyr Gwasanaethau Triniaeth ledled Cymru. Diweddarwyd y set ddata gyffredin a'r diffiniadau data fel rhan o adolygiad ehangach ym mis Ebrill 2014.

Mae Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau yn darparu data ar bobl a atgyfeiriwyd i gael triniaeth am broblem camddefnyddio sylweddau. Mae'r wybodaeth yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir gan fwyafrif y sefydliadau sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Gronfa Ddata yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i fonitro cyflawniadau yn erbyn Dangosyddion Perfformiad Allweddol.